Clwb wrth eu bodd gan weddnewidiad gwych gan dasglu Valero
Club are bowled over with Valero task force’s fantastic facelift
Mae aelodau o Chwaraeon Sir Benfro nid yn unig yn cefnogi datblygiad chwaraeon cymunedol yn eu gwaith o ddydd i ddydd ond yn helpu yn eu hamser hamdden, hefyd.
Fe wnaeth un ar ddeg aelod o'r tîm helpu’n ddiweddar i roi gweddnewidiad yr oedd ei angen yn fawr ar glwb Bowlio Saundersfoot.
Dan nawdd gan Valero, paentiodd y gwirfoddolwyr ymroddedig y sgwâr bowlio a'r sied offer, rhoi farnais ar y meinciau a phaentio'r byrddau picnic.
Dyma'r 6ed flwyddyn y mae tasglu Valero wedi helpu clwb chwaraeon cymunedol.
"Dyma ein ffordd ni o roi rhywbeth yn ôl i chwaraeon ar lawr gwlad yn y sir," meddai Matt Freeman, rheolwr Chwaraeon Sir Benfro yn nhîm datblygu chwaraeon Cyngor Sir Penfro.
"Roedd yn braf cefnogi clwb chwaraeon cymunedol sy'n rhoi cyfle sy'n wahanol i'r cynnig traddodiadol, sef criced, pêl-droed a rygbi.
"Mae arnom ddyled fawr i Valero am noddi diwrnod y tasglu unwaith eto, oherwydd heb eu cefnogaeth werthfawr, ni fyddem yn gallu ei gynnal."
Dywedodd Cadeirydd clwb bowlio Saundersfoot, Myrddin Dennis, fod y clwb yn hynod ddiolchgar ac yn werthfawrogol o'r gefnogaeth.
"Roedd pwyllgor y Clwb wrth ei fodd yn cael cefnogaeth ar gyfer Diwrnod y Tasglu gan dîm Chwaraeon Sir Benfro," meddai.
"Mae'r hyn gyflawnon nhw gyda'u llafur a'u gwaith caled wedi cael effaith sylweddol ar ffasâd y clwb".
Ar hyn o bryd, mae gan Clwb Bowlio Saundersfoot adrannau menywod a dynion. Er bod COVID-19 wedi effeithio'n andwyol arnyn nhw, maen nhw’n gweithio'n galed i ailadeiladu eu haelodaeth.
Maen nhw bellach yn ceisio denu plant iau i'r Clwb tra hefyd yn gwneud eu cyfleusterau'n gynhwysol fel y gallant ddarparu cyfleoedd ehangach i gyfranogwyr anabl a phobl ag anghenion addysgol arbennig.
Dywedodd Stephen Thornton, Rheolwr PGPA Valero: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi chwaraeon cymunedol yn Sir Benfro ac roeddem yn falch iawn o ariannu'r fenter benodol hon.
“Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Glwb Bowlio Saundersfoot yn y dyfodol a diolch i staff Chwaraeon Sir Benfro am eu hamser a'u hymroddiad i helpu chwaraeon ar lawr gwlad."
https://saundersfootbowlingclub.co.uk/
Lluniau:
Yn y llun gwelir aelodau o dîm Chwaraeon Sir Benfro yng Nghlwb Bowlio Saundersfoot gyda ysgrifennydd y clwb Paul Blayney.