Clybiau chwaraeon yn derbyn grantiau gan Chwaraeon Cymru
Sports clubs receive grants from Sport Wales
Mae pymtheg o glybiau chwaraeon yn Sir Benfro wedi derbyn cyfran o fwy na £100,000 yn rownd ddiweddaraf dyraniadau grant 'Cronfa Cymru Actif'.
Bydd grantiau Chwaraeon Cymru yn cael eu defnyddio gan y clybiau i brynu offer, hyfforddi gwirfoddolwyr, datblygu prosiectau newydd ac arloesol, a mwy.
Anogodd Matt Freeman, rheolwr Chwaraeon Sir Benfro, sefydliadau chwaraeon lleol eraill sydd angen gwella eu clybiau neu fuddsoddi ynddynt i ystyried gwneud cais am grant.
"Mae Cronfa Cymru Actif yn helpu clybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol nid-er-elw i wella mynediad at weithgarwch corfforol," meddai.
"Mae'n ffynhonnell wych o gefnogaeth i'n sefydliadau chwaraeon lleol, gyda grantiau posibl yn amrywio o £300 i £50,000."
Derbyniodd y clybiau canlynol grant ym mis Gorffennaf 2023.
Clwb Bocsio Amatur Doc Penfro a Phenfro: £7,360
Ffederasiwn Codi Pwysau Sir Benfro: £4,173
Clwb Hwylio Dinbych-y-pysgod: £4,969
Clwb Achub Bywyd Syrffio Porthmawr: £19,819
Clwb Rhwyfo Cymunedol Llandudoch: £4,980
Clwb Pêl-droed Cilgeti: £2,346
Clwb Cic-focsio Penfro a Chlwb Bocsio Amatur Dockers: £4,878,
Saethwyr Bro Cleddau: £1,013
Clwb Bocsio Amatur Pont Myrddin: £12,220
Clwb Rhwyfo Jemima Abergwaun ac Wdig: £6,201
Cadetiaid Môr Aberdaugleddau: £16,776
Clwb Pêl-droed Cymdeithas Johnston: £1,194
Clwb Pêl-droed Amatur Herbrandston: £1,600
Clwb Pêl-droed Cymdeithas Solfach, £2,903
Academi Golff Iau Trellwyn, £10,000
- I wneud cais am grant neu i ddarganfod mwy, cysylltwch ag Alan Jones yn Chwaraeon Sir Benfro ar 01437 776191 neu anfonwch neges e-bost at sport@pembrokeshire.gov.uk
Diwedd