English icon English
Gorsaf Bleidleisio Polling station Gorsaf Bleidleisio Polling station

Cofiwch bleidleisio ddydd Iau

Don’t forget to vote this Thursday

Dydd Iau, 2 Mai yw eich cyfle i bleidleisio dros Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Cofiwch ddefnyddio eich pleidlais a mynd i'ch gorsaf bleidleisio leol rhwng 7am a 10pm.

Maent yn cael eu hethol gan y cyhoedd i ddwyn Prif Gwnstabliaid a'r heddlu i gyfrif ar eu rhan.

Gwaith Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw gosod cyllideb yr heddlu a sicrhau ei bod yn cael ei gwario'n effeithiol, penodi Prif Gwnstabliaid yr heddlu lleol, gosod cynlluniau heddlu a throseddu mewn cydweithrediad â thrigolion a gweithio'n agos gyda'r cyngor lleol a sefydliadau eraill ar y cynlluniau hyn.

Dyma'r etholiad cyntaf yng Nghymru lle bydd angen prawf adnabod ffotograffig arnoch i bleidleisio.

Mae'r mathau o brawf adnabod a dderbynnir yn cynnwys pasbort neu drwydded yrru'r DU, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Gymanwlad; a rhai tocynnau teithio rhatach, fel tocyn bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio prawf adnabod sydd wedi dod i ben os yw’n dal yn bosibl eu hadnabod o’r llun.

Neu efallai eich bod wedi gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr a dderbynnir hefyd.

Os ydych chi'n bwriadu mynd â'ch Pleidlais Bost i orsaf bleidleisio neu brif dderbynfa Neuadd y Sir, cofiwch lenwi ffurflen dychwelyd pleidlais. Heb y ffurflen wedi'i llenwi, bydd y bleidlais bost honno neu’r pleidleisiau post hynny'n cael eu gwrthod.

Dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch ei chyflwyno, a phleidleisiau post hyd at bum person arall.

Mae mwy am Etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ar-lein (yn agor mewn ffenestr newydd).