Cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd ym mis Mai
Register to vote in May’s Senedd election
Mae trigolion Sir Benfro yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd sydd i ddod.
Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 7 Mai a bydd pleidleiswyr ledled Cymru yn dewis 96 aelod i’w cynrychioli.
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Llun, 20 Ebrill.
Gallwch wneud cais cyflym ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Gall unrhyw un sy'n 16 oed a hŷn, ac sy'n byw yng Nghymru, gofrestru i bleidleisio.
Bydd 16 o etholaethau bellach yn hytrach na 40 ledled Cymru ac mae Sir Benfro gyda Cheredigion yn rhan o etholaeth Ceredigion Penfro.
Os hoffech bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy drwy'r post, y dyddiad cau i wneud cais yw 5pm ddydd Mawrth, 21 Ebrill ac os oes angen pleidlais drwy ddirprwy arnoch, y dyddiad cau yw 5pm ddydd Mawrth, 28 Ebrill.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro a Dirprwy Swyddog Canlyniadau Etholaeth, Will Bramble: "Mae'n bwysig iawn bod pawb sy'n gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Mae cofrestru i bleidleisio yn sicrhau y gallwch gael eich llais wedi’i glywed yn etholiad y Senedd.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau etholiad y Cyngor
Mae gwefan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr, bwrwpleidlais.cymru, wedi'i lansio gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru, sy'n rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, ac mae'n cynnwys popeth sydd angen i bobl ei wybod am yr etholiad.