Person yn defnyddio cyfrifiannell i gyfrifo biliau

Cyngor ar gostau byw i breswylwyr Sir Benfro, wedi’i lywio gan breswylwyr Sir Benfro

Cost of Living advice for Pembrokeshire residents, shaped by Pembrokeshire residents

Rhannu:

Gall unrhyw un sy’n chwilio am gyngor neu help gyda chostau cynyddol a’r effaith ar fywydau ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnyn nhw mewn un lle ar wefan Cyngor Sir Penfro.

P’un ai yw’n help gyda biliau, cyngor ar reoli arian a dyledion, ymweld â mannau cynnes, dod o hyd i gymorth ar faterion tai neu gyda chostau addysg ac ysgol, mae gwybodaeth ar gael ar y tudalennau Costau Byw  pwrpasol

Mae adrannau eraill yn cynnwys help i ddod o hyd i waith a hyfforddiant, iechyd a llesiant yn ogystal â chymorth gyda bwyd, gofal plant a chymorth i bobl hŷn.

Ym mhob adran mae llawer o wahanol bwyntiau gwybodaeth a dolenni wedi’u cynllunio i gyfeirio preswylwyr at y gefnogaeth sydd ar gael a sut i fanteisio arno ar lefel genedlaethol a lleol.

Gwnaeth preswylwyr Sir Benfro helpu i lunio’r tudalennau newydd drwy gymryd rhan mewn profion defnyddioldeb a rhoi adborth gwerthfawr i sicrhau bod yr holl gymorth costau byw a’r wybodaeth sydd wedi’i darparu yn hygyrch.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Welliant Corfforaethol a Chymunedau, y Cynghorydd Neil Prior: "Roedd y mewnbwn gan breswylwyr i wneud y tudalennau gwe pwrpasol hyn yn hygyrch yn hynod o bwysig, ac mae cael cyfoeth o wybodaeth felly i helpu i gefnogi unrhyw un sy’n cael trafferth yn y cyd-destun ariannol presennol yn adnodd hanfodol."

Hoffai Cyngor Sir Penfro barhau i weithio gydag aelodau’r cyhoedd, i brofi a gwella gwasanaethau ar-lein. Mae cronfa ddata o ddarpar ymgeiswyr ymchwil yn cael ei datblygu a gall trigolion lleol ymuno drwy lenwi ffurflen mynegi diddordeb.