English icon English
Bro Gwaun GCSE

Cyngor yn llongyfarch disgyblion TGAU ar ddiwrnod canlyniadau

Council congratulates GCSE pupils on results day

Mae Cyngor Sir Penfro yn llongyfarch pob dysgwr sydd wedi derbyn canlyniadau TGAU a lefel 1 a 2 galwedigaethol heddiw.

Mae cyflawniadau dysgwyr eleni i'w dathlu gan mai hon yw'r ail flwyddyn yn unig o arholiadau cyhoeddus yn dilyn y pandemig byd-eang.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: "Heddiw rydym ni’n cydnabod cyflawniadau ein holl ddysgwyr sydd wedi cael canlyniadau.

"Er bod y pandemig byd-eang bellach y tu ôl i ni mae ei effeithiau wedi cael eu teimlo'n ddifrifol gan y bobl ifanc hyn sy'n derbyn canlyniadau heddiw. Mae ein dysgwyr wedi bod yn wydn ac wedi ymateb i'r heriau maen nhw wedi'u hwynebu.

Hoffwn longyfarch pob dysgwr ar eu cyflawniadau.

Ysgol Bro Preseli GCSE

Fel Awdurdod Lleol, rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl.

Bydd dysgwyr sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw wedi ennill ystod o sgiliau sy'n eu galluogi i fod yn ddysgwyr gydol oes a gobeithio cyflawni mwy nag yr oedden nhw’n meddwl oedd yn bosibl. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i bob dysgwr ar gyfer y dyfodol."

Hwest High GCSE

Dywedodd Steven Richards-Downes, Cyfarwyddwr Addysg: "Dylai pob dysgwr sydd wedi derbyn ei ganlyniadau heddiw fod yn falch o'u cyflawniadau gan eu bod wedi wynebu heriau arholiadau allanol. 

"Bydd ystod o opsiynau ar gae i bob dysgwr ystod i'w helpu i barhau ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. "