English icon English
 arfau

Annog tenantiaid cyngor i fynychu digwyddiad Cynnal a Chadw Adeiladau

Council tenants encouraged to attend Building Maintenance event

Bydd sesiwn Panel Tenantiaid Cynnal a Chadw Adeiladau yn cael ei gynnal yn Aberdaugleddau yr wythnos nesaf ar gyfer tenantiaid Cyngor Sir Penfro.

Mae'r Panel Tenantiaid yn The Third Place, Nantucket Avenue, ar 28 Mehefin, yn gyfle i Denantiaid y Cyngor a Chynghorwyr siarad â swyddogion Cynnal a Chadw Adeiladau wyneb yn wyneb.

Bydd rheini sy’n bresennol yn gallu codi unrhyw faterion cynnal a chadw adeiladau gyda staff, gwirio atgyweiriadau a chlywed am ddiweddariadau cynnal a chadw adeiladau.

Sylwer, efallai y bydd angen i staff ymchwilio i ymholiadau atgyweirio ar ôl y sesiwn ond byddant yn cysylltu â chwsmeriaid eto i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar statws eu gwaith hatgyweirio cyn gynted â phosibl.

Cynhelir y sesiwn o 5.00pm tan 7.30pm a bydd angen cadw eich lle gan fod y lleoedd yn gyfyngedig.

Ffoniwch y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 / 07901 254009 i gadw eich lle neu e-bostiwch HousingCLO@pembrokeshire.gov.uk