Cronfa Treftadaeth y Loteri i greu canolfan ddarganfod ryngweithiol yng Nghastell Hwlffordd
Lottery Heritage Fund award to create interactive discovery centre at Haverfordwest Castle
Cyhoeddwyd heddiw bod Cyngor Sir Penfro a phartner cymunedol sefydliad corfforedig elusennol Castell Hwlffordd wedi cael cymorth cychwynnol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect o’r enw Castell Hwlffordd: Porth Treftadaeth Sir Benfro.
Wedi’i wneud yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, nod y prosiect yw trawsnewid adeilad segur y Carchar Sirol Rhestredig Gradd II yng nghanol y safle yn ganolfan ddarganfod ryngweithiol o’r radd flaenaf, i adrodd hanes gorffennol Sir Benfro, a’i dyfodol posibl, mewn ffordd hwyliog a deniadol.
Mae cyllid datblygu o £368,525 wedi’i ddyfarnu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu’r bartneriaeth i symud ymlaen â’i chynlluniau i wneud cais am grant Loteri Genedlaethol llawn y flwyddyn nesaf er mwyn cyflawni’r cynllun.
Yn ogystal â datblygu adeilad yr Hen Garchar, mae’r prosiect yn anelu at lwyr adnewyddu ac ail-ddehongli Amgueddfa Tref Hwlffordd yn Nhŷ’r Llywodraethwr gerllaw, cwblhau dehongliad awyr agored newydd yn y castell, a llunio brand, gwefan a strategaeth farchnata newydd.
Mae rhaglen gweithgareddau, digwyddiadau ac addysg hefyd wedi’i chynllunio gyda gweithdai peilot a grwpiau ffocws cyhoeddus yn dechrau yn hydref 2024 i helpu i lunio hyn. Bydd cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith ar gael hefyd.
Adeiladwyd Carchar y Sir a Thŷ’r Llywodraethwr gyntaf o fewn muriau castell Hwlffordd ym 1779. Roedd y carchar yn gartref i dros 400 o garcharorion rhyfel o Ffrainc yn dilyn y cyrch diwethaf a fethodd â goresgyn Prydain yn Abergwaun ym 1797. Ailadeiladwyd y carchar ym 1820, ac ym 1878 fe’i troswyd yn bencadlys Cwnstabliaeth Sir Benfro.
Daeth y castell i feddiant Cyngor Sir Penfro (CSP) ym 1963, pan ddaeth y carchar yn gartref i Archifdy ac Amgueddfa Sir Benfro, ac ers 2013, pan symudodd yr archifau i Prendergast, mae wedi bod yn wag tan nawr.
Wrth sôn am y wobr, dywedodd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y cymorth hwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r castell wedi bod wrth galon Hwlffordd ac, yn wir, Sir Benfro ers dros 900 o flynyddoedd, ac mae’n hyfryd gwybod ein bod un cam yn nes at ei gadw a’i ail-greu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Dechreuwyd creu atyniad treftadaeth blaenllaw yn Hwlffordd dros 10 mlynedd yn ôl, ac mae wedi’i ysgogi gan grŵp ffyddlon ac ymroddedig o randdeiliaid cymunedol.
Bydd sefydliad corfforedig elusennol Castell Hwlffordd, yr elusen annibynnol newydd, nid-er-elw, sydd wedi dod i’r amlwg o’r grŵp rhanddeiliaid hwn, yn rhedeg y castell, yr amgueddfa a’r atyniad ymwelwyr er budd y gymuned.
Mae’r elusen newydd wedi gweithio’n agos iawn gydag Amgueddfa Tref Hwlffordd, a fydd, maes o law, yn dod yn rhan gyfreithiol o’r endid newydd, fel y gall y ddau atyniad weithredu fel un.
Dywedodd Ted Sangster, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Sefydliad Corfforedig Elusennol Castell Hwlffordd: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda Chyngor Sir Penfro ar y prosiect adfywio pwysig hwn. Rydym yn obeithiol iawn y bydd yr atyniad yn rhoi ffocws newydd i ymwelwyr ddod i Hwlffordd ac yn arwain at hwb economaidd y mae mawr ei angen ar y gymuned hanesyddol a diwylliannol gyfoethog hon.”
Dywedodd Andrew White, Cyfrwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae’n gyffrous gallu gwobrwyo cyllid cychwynnol ar gyfer y prosiect hwn y gwyddom y bydd yn dod â bywyd i ddiwylliant, hanes, a threftadaeth y rhan hon o Hwlffordd. Mae’n galonogol gwybod y bydd y Castell yn parhau i chwarae rhan fawr yn y gymuned am flynyddoedd i ddod.”