Members of the Step Up, Step Down social care team with head of children's services Chris Frey-Davies

Cydnabyddiaeth genedlaethol i raglen sy'n cadw plant allan o ofal

National recognition for programme keeping children out of care

Rhannu:

Mae rhaglen arloesol sy'n helpu plant i aros yn ddiogel gyda'u teuluoedd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol.

Mae gwasanaeth Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl y Rhwydwaith Maethu, a ddarperir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, wedi cael canmoliaeth uchel ac wedi dod yn ail yn y Gwobrau Gofal Cymdeithasol cenedlaethol yn ddiweddar, am ei waith rhagorol yn cefnogi plant, gofalwyr maeth a theuluoedd geni.

Mae'r rhaglen yn darparu cymorth ymarferol a therapiwtig, gan gynnwys rhaglenni rhianta, mentora, goruchwylio a gweithgareddau cymunedol, gan helpu teuluoedd i fod mwy cadarn a lleihau'r angen i blant fynd i ofal.

Ers ei lansio yn Sir Benfro, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi mwy na 30 o rieni a gofalwyr a 43 o blant a phobl ifanc.

Wedi'i ariannu'n wreiddiol gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad KPMG yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yng Ngogledd Iwerddon, mae cynllunio cynaliadwy wedi sicrhau y gall y gefnogaeth werthfawr hon barhau y tu hwnt i'r cyfnod cyllido cychwynnol.

Dywedodd Chris Frey-Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro: "Mae'r wobr hon yn dyst i ymroddiad pawb sy’n rhan o’r gwasanaeth, yn enwedig ein gofalwyr maeth, y mae eu tosturi, eu sgiliau a'u hymrwymiad wedi bod yn allweddol wrth gefnogi plant a theuluoedd trwy gyfnodau heriol.

“Mae'r dull Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn adlewyrchu ein hathroniaeth yn Sir Benfro, lle bynnag y mae'n ddiogel ac, er budd gorau plentyn, y dylid cefnogi plant i aros gyda'u teuluoedd a'u cymunedau. Trwy ategu cryfderau teuluoedd a darparu'r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, gallwn gyflawni canlyniadau gwell i blant drwy gynnal perthnasoedd pwysig a chysylltiadau lleol.

“Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol dull cydweithredol, sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n helpu mwy o deuluoedd i aros gyda'i gilydd a ffynnu.”

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Marc Tierney: "Mae'n wych gweld yr effaith gadarnhaol y mae'r rhaglen yn ei chael ar leihau'r angen i blant fynd i mewn i'r system ofal, ac mae helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd a gwella bywydau'r plant hynny wrth wraidd y gwaith hwn. Llongyfarchiadau i bawb sy’n rhan ohono.”