Cyfeillgarwch yn cael ei ymestyn wrth i ysgol gael gwaith celf yn rhodd gan ddarlunydd enwog
Friendship extended as school is gifted artwork by celebrated illustrator
Mae cyfeillgarwch cryf rhwng y darlunydd enwog Margaret Jones ac Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn parhau ar ôl dros 20 mlynedd.
Yn gynnar yn y 2000oedd cynnar, ffurfiodd disgyblion a staff Ysgol Iau Prendergast berthynas gref â Margaret pan wnaethon nhw astudio’i llyfr ffantasi, ‘Nat’.
Gwnaeth grŵp o ddisgyblion gwrdd â hi yn ei chartref a chyfweld â hi, ac yn ystod yr ymweliad hwnnw, datgelodd Margaret ei bod hi wedi ysgrifennu dilyniant i’r llyfr, nad oedd wedi’i gyhoeddi.
Yn awyddus i ddarganfod beth ddigwyddodd nesaf, fe wnaeth y disgyblion lobïo’r cyhoeddwr ac annog Margaret i ryddhau’r dilyniant.
Dechreuodd cyfeillgarwch a gyfoethogodd brofiad addysgol y disgyblion a’u hagosáu at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, gan eu hysbrydoli i ysgrifennu a thynnu lluniau.
Pan gafodd ei ryddhau, cafodd ‘Nat and the Box of Gifts’ ei gyflwyno i staff a disgyblion Ysgol Iau Prendergast. Roedd yr hoffter yr oedd Margaret yn ei deimlo tuag at ysgol yn amlwg pan roddodd hi holl waith celf gwreiddiol y llyfrau i’r ysgol.
Roedd y gelf hon yn hongian yn falch ar furiau’r Ysgol Gynradd Prendergast newydd, pan agorodd yn 2007.
Yn ddiweddar, cysylltodd yr ysgol â Margaret i holi sut y byddai modd rhannu’r gweithiau celf hyn yn ehangach i’w mwynhau gan bobl Cymru.
Ymwelodd mab Margaret, Mark, â’r ysgol i dderbyn y gwaith celf ac roedd yn awyddus i’r ysgol gadw rhai o’r darnau.
Dywedodd Louise John, Pennaeth Ysgol Gynradd Prendergast: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Margaret a’i theulu yn dymuno i ni gadw peth o’r gwaith celf yn dystiolaeth o’r berthynas hanesyddol rhyngddi hi a’r ysgol.
"Bydd y gwaith celf yn ein hatgoffa o’n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo diwylliant a llenyddiaeth Cymru. Bydd y gweithiau celf sydd wedi’u cadw yn parhau i gael eu harddangos yn falch yn yr ysgol ac mae’r rhodd hael hon yn sefyll fel esiampl dda o gyfraniad rhyfeddol Margaret i gelfyddydau a llenyddiaeth Cymru."
Mae Margaret Jones, sydd erbyn hyn yn agosáu at ei phen-blwydd yn 105 oed, wedi bod yn ffigwr allweddol yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru.
Fe wnaeth ei gyrfa ddisglair flodeuo yn ddiweddarach yn ei bywyd, wrth iddi ddechrau paentio’n broffesiynol pan oedd yn 60 oed. Mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei darluniau hudolus o fythau a straeon Cymru, sydd wedi chwarae rhan sylweddol yn diffinio mytholeg weledol Cymru.
Mae ei gwaith, wedi’i nodweddu gan ddychymyg byw a manylion cywrain, wedi swyno cynulleidfaoedd hen ac ifanc, gan ddod â chyfoeth llên gwerin Cymru’n fyw.
Y gobaith yw y bydd gwaith celf Mrs Jones yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Pennawd
Yn y llun, mae Mark, mab Margaret Jones, i’w weld gyda disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast a rhywfaint o’r gwaith celf gwreiddiol.