Cyffro am statws ysgol Caru Gwenyn
Buzzing about Bee Friendly school status
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn llawn cyffro eu bod wedi derbyn statws Caru Gwenyn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r wobr yn cydnabod ymrwymiad y disgyblion i gefnogi peillwyr a hybu bioamrywiaeth, gyda phwyslais allweddol ar gadwraeth peillwyr.
Mae eu gwaith, yn yr ystafell ddosbarth a chyda phrosiectau ymarferol, wedi cael sylw mewn adroddiad astudiaeth achos diweddar sy'n amlinellu sut mae disgyblion wedi datblygu dealltwriaeth o ba mor hanfodol yw peillwyr fel gwenyn, gloÿnnod byw a phryfed hofran i ecosystemau ac o ran cynhyrchu bwyd.
Mae hefyd yn adlewyrchu nod ehangach yr ysgol i annog disgyblion i gyfrannu'n gadarnhaol at y byd, dan arweiniad eu harwyddair 'Credu a Chyflawni'.
Mae dysgwyr wedi bod yn tyfu eu planhigion eu hunain, yn enwedig y rhai y mae peillwyr yn eu caru a'u gwerthu yn eu siop Bocs Bwyd, lle bydd cwsmeriaid yn talu cymaint ag y maent yn dymuno, a lle mae bwyd dros ben gan fusnesau lleol yn cael ei drosglwyddo i arbed gwastraff.
Y llynedd, roedd yr ysgol yn hynod ffodus i gael cae mawr sy'n cael ei drawsnewid yn ardal awyr agored sydd wedi ei gynllunio i gefnogi dysgu am fioamrywiaeth a chynaliadwyedd, gyda chefnogaeth gan Becyn Datblygiad Enfawr Cadwch Gymru'n Daclus.
Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro, gyda Thîm Cadwraeth Cyngor Sir Penfro, wedi darparu arweiniad ar ddatblygu cynefinoedd amrywiol yn yr ardal, yn ogystal ag annog dolydd blodau gwyllt mewn rhan o'r cae.
Bydd y cynefin y mae'r ysgol yn ei greu yn cefnogi peillwyr a bywyd gwyllt arall yn ogystal â darparu ystafell ddosbarth byw ar gyfer addysg amgylcheddol ymarferol.
Bydd Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn gweithio gydag Ysgol Gymunedol Pennar, gyda chefnogaeth gan Ganolfan Darwin, Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro a Phartneriaeth Natur Sir Benfro, i gynnal arolygon bioamrywiaeth ar beillwyr a bywyd gwyllt lleol fel rhan o astudiaethau bioamrywiaeth ehangach.
Dywedodd y Pennaeth Louise John: "Mae ein disgyblion a'n staff yn falch o gydnabod eu hymdrechion i ennill Statws Caru Gwenyn am eu hymrwymiad i wella amgylchedd yr ysgol i gefnogi gweithgareddau bioamrywiaeth yn Ysgol Prendergast.
“Mae'r Bocs Bwyd yn rhan annatod o gwricwlwm ein hysgol a bydd pob disgybl yn tyfu, coginio a dysgu am fwyd i gefnogi eu nodau iechyd ac ymarfer cynaliadwy."
Gall unrhyw sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn bod yn fwy cyfeillgar i wenyn gysylltu â Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth Cyngor Sir Penfro anthony.rogers@pembrokeshire.gov.uk