English icon English
Riverside Library in Haverfordwest

Cyfle pwysig i drigolion gael dweud eu dweud ar ddyfodol llyfrgelloedd yn Sir Benfro

Important chance for residents to have a say on the future of libraries in Pembrokeshire

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Sir Benfro yn wasanaeth poblogaidd a gaiff lawer o ddefnydd, sydd ar gael i bawb. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud newidiadau i'r gwasanaeth i leihau ei gost fel rhan o fesurau ehangach i leihau costau ar draws holl wasanaethau Cyngor Sir Penfro.

Mae Gwasanaethau Llyfrgell Cyhoeddus ledled y DU yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar y gyllideb, ac mae hyn yn wir amdanom ni hefyd.

Dywedodd Arweinydd newydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey: "Fel pob adran yn y Cyngor, mae'n rhaid i ni leihau ein costau. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hynny gyda dealltwriaeth lawn o'r hyn sydd ei angen ar bobl o'n Gwasanaethau Llyfrgell er mwyn inni allu canolbwyntio'r adnoddau sydd gennym ar y rhai sydd â'r angen mwyaf.

" Yn hynny o beth, rydym ni lansio ymarfer helaeth i Asesu Anghenion y Llyfrgell, a fydd yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, grwpiau ffocws, trafodaethau unigol gyda rhanddeiliaid allweddol ac arolwg. Mae hwn yn gyfle i bobl leol ein helpu i lywio dyfodol llyfrgelloedd yn y sir."

Ychwanegodd y Cynghorydd Harvey: "Naw mlynedd yn ôl, roedd y Gwasanaeth Llyfrgell yn wynebu heriau tebyg i'r gyllideb a chynhaliwyd Asesiad Anghenion tebyg. Arweiniodd y gwaith hwnnw at greu nifer o bartneriaethau pwysig gyda chymunedau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned, a helpodd i ddiogelu llyfrgelloedd rhag cau.

"Rwy'n hyderus, drwy gydweithio eto, a chael dealltwriaeth gyfoes o anghenion pobl, y gallwn ddod o hyd i ffordd drwy'r her newydd hon a fydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau i'n holl boblogaeth ac yn benodol, amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed."

Bydd rhaglen helaeth o ymgysylltu â thrigolion, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid yn dechrau 15 Mai a bydd yn rhedeg tan 6 Awst.

Bydd yn cynnwys:

  • Arolwg ar ffurf holiadur ar gael ar-lein ac ar bapur (o lyfrgelloedd a mannau gwasanaeth CSP eraill ar gyfer y cyhoedd canolfannau hamdden a'r archifau)
  • Chwe cyfarfod cyhoeddus ledled y sir yn ystod mis Mehefin – mae gwybodaeth dyddiadau a lleoliadau isod
  • Amrywiaeth o grwpiau ffocws a sgyrsiau unigol gyda rhanddeiliaid allweddol

Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried yn briodol, a bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio i'n helpu i ddatblygu opsiynau, y byddwn yn ymgynghori arnynt yn ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae cyfarfodydd cyhoeddus wedi'u cynllunio ar gyfer:

Dydd Llun 10 Mehefin, Neuadd y Dref Abergwaun, 6.30-8.30pm

Dydd Mercher 12 Mehefin, Neuadd y Sir, Hwlffordd, 6.30-8.30pm

Dydd Llun 17 Mehefin, Neuadd y Dref Penfro, Prif Stryd, 6.30-8.30pm

Dydd Mercher 19 Mehefin, Neuadd Pater, Doc Penfro, 6.30-8.30pm

Dydd Mawrth 25 Mehefin, Canolfan Greenhill, Dinbych-y-pysgod, 6.30-8.30pm

Dydd Iau 27 Mehefin, Llyfrgell Aberdaugleddau, Llys Cedar, 6.30-8.30pm

Mae'r cyfarfodydd hyn yn agored i unrhyw un sy'n dymuno mynychu.

Nid oes angen cadw eich lle, ond byddai'n ein helpu'n fawr pe byddai gennym amcangyfrif bras o'r niferoedd a ddisgwylir, felly os yn bosibl, a wnewch chi gofrestru eich diddordeb ymlaen llaw arelin, yn unrhyw bryd ar ôl 20 Mai. Diolch yn fawr.