English icon English
Cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi

‘Cyfle unigryw’ i gerddorion ifanc

‘Once in a lifetime opportunity’ for young musicians

Cafodd cerddorion ifanc yn Sir Benfro gyfle unigryw yn ddiweddar pan wnaethant berfformio ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol o Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Perfformiodd Band Cyngerdd a Cherddorfa Hyfforddiant Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro ddau ddarn â’r gerddorfa genedlaethol fel rhan o gyngerdd agoriadol yr eglwys gadeiriol ar gyfer ‘Music for May’.

“Ynghyd â Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi, rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cynnig cyfle mor rhyfeddol ac arbennig i’n cerddorion ifanc berfformio,” dywedodd Miranda Morgan, Cydlynydd Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro.

Y gerddoriaeth a berfformiwyd gan y cerddorion ifanc oedd The Little Train of the Caipira gan Villa-Lobos ac arwyddgan Doctor Who gan Delia Derbyshire. Roedd hyn hyd yn oed yn fwy arbennig oherwydd y ffaith mai Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC sy’n recordio’r holl gerddoriaeth ar gyfer Doctor Who!

Roedd y darnau eraill a berfformiwyd gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn cynnwys Mambo o West Side Story, Complete Nonsense gan Lenny Sayers a Zadok the Priest gan Handel.

“Trwy gydol y prynhawn ac yn ystod y cyngerdd, roedd y disgyblion wedi’u swyno a’u hysbrydoli gan y gerddoriaeth o’u cwmpas,” dywedodd Miranda. “Rwy’n siŵr ei fod yn brofiad y byddan nhw’n ei gofio am byth.” 

 

Pennawd:

Llun o’r cerddorion ifanc yn ymarfer cyn y cyngerdd â Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC.