English icon English
Cynllun teithio llesol yn Saundersfoot

Cyflwyno cynlluniau teithio llesol newydd yn Sir Benfro

New active travel schemes to be rolled out in Pembrokeshire

Mae llwybr cerdded a seiclo newydd i orsaf reilffordd Saundersfoot ymysg £1.6m gwerth o gynlluniau teithio llesol newydd sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer Sir Benfro.

Ariennir y cynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Sir Penfro, a byddant yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio teithio llesol yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae teithio llesol yn cynnwys cerdded a seiclo (yn cynnwys defnyddio sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn trydan) ar gyfer teithiau bob dydd, fel mynd i’r gwaith neu’r siopau, neu i gael mynediad at wasanaethau.

“Rydyn ni’n falch fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn Sir Benfro unwaith eto,” dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr.

“Bydd buddion amgylcheddol, economaidd ac iechyd i bob un o’r cynlluniau teithio llesol sydd wedi’u cyflwyno gan y Cyngor.”

Nod y ‘dyraniad craidd Teithio Llesol’ gwerth £500,000 yw gwella cysylltiadau o fewn cymunedau, a rhyngddynt. Bydd yn mynd tuag at y canlynol:

  • ymarferoldeb a gwaith dylunio ar lwybrau newydd a gwelliannau i lwybrau presennol yn Llandudoch, Abergwaun, Hwlffordd, Doc Penfro, Saundersfoot, Dinbych-y-pysgod, a Phenalun
  • datblygu rheilffordd segur y Cardi Bach fel llwybr seiclo a cherdded rhwng Hendy-gwyn ar Daf ac Aberteifi, gan gysylltu aneddiadau yng Ngogledd Ddwyrain Sir Benfro.

Yn ogystal â’r dyraniad teithio craidd, derbyniwyd £938,553 ar gyfer cynlluniau yn Saundersfoot. Mae datblygu llwybr newydd i’w ddefnyddio ar y cyd i orsaf reilffordd Saundersfoot yn brosiect allweddol.

Dywedodd Cynghorydd Sir De Saundersfoot, Chris Williams, fod hyn yn newyddion gwych i’r gymuned leol.

“Mae’r cyswllt teithio llesol mor bwysig i’r gymuned gael mynediad diogel i bob ardal o’r pentref,” dywedodd. “Mae’n cynorthwyo unigolion sydd efallai eisiau ymweld â ffrindiau a theuluoedd ac mae’n gadarnhaol iawn ar gyfer lles pobl ac yn sicrhau bod pob rhan o’r pentref yn hygyrch.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Williams y bu cysylltu’r orsaf reilffordd â’r pentref yn welliant pwysig. 

“Mae hwn wedi bod yn llwybr anodd yn rhy hir i ymwelwyr sy’n ceisio dod o hyd i’r ffordd ar ffyrdd cul a throellog. Mae hyn yn rhywbeth hir-ddisgwyliedig ar gyfer Saundersfoot, ond rwy’n sicr yn croesawu’r buddsoddiad a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth ymweld â’r ardal. Rwy’n gobeithio y bydd buddsoddiad parhaus yn y dyfodol i fynd i’r afael ag ardaloedd eraill o’r pentref i ffurfio’r cyswllt teithio llesol.”

Dywedodd y Cynghorydd Alec Cormack, Cynghorydd Sir ar gyfer Gogledd Saundersfoot: “Mae’r mesurau gostegu traffig arfaethedig, gan gynnwys culhau ffordd gerbydau cyffordd Fan Road gyda The Ridgeway/Valley Road yn Saundersfoot yn welliannau i’w croesawu o ran diogelwch ar y gyffordd hon.”

Mae cynlluniau eraill sy’n derbyn cyllid teithio llesol gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • £130,000 i ddatblygu cysylltiadau gwell rhwng Aberdaugleddau a Johnston gyda chyfleusterau ar gyfer cerdded a seiclo
  • £50,000 i ddatblygu cynllun yn Ninbych-y-pysgod ar gyfer llwybr rhwng The Croft a The Green

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Mae’n wych gweld cymaint o lwybrau teithio llesol yn cael eu datblygu yn y Sir. Bydd staff yr awdurdod lleol yn awr yn gallu dechrau gwireddu’r cynlluniau ar gyfer y llwybrau hyn, ac mae’r dyfarniad a roddwyd yn dystiolaeth o’u gwaith caled.”