English icon English
Ma of road closures

Cyfyngiadau ar ffyrdd ar gyfer Triathlon Abergwaun

Fishguard Triathlon road restriction information

Bydd nifer o ffyrdd ar gau yn ystod digwyddiad Challenge Wales yn Abergwaun a Thyddewi ddydd Sul yma (9 Mehefin).

Bydd y triathlon yn dechrau ar lan y môr yn Wdig a bydd ffyrdd ar gau rhwng 9.45am a 3pm gan gynnwys cau'r A487 i Dyddewi gyda mannau croesi yng Nghroesgoch a Mathri.

Mae disgwyl i tua 1,000 o athletwyr gymryd rhan a bydd llawer mwy o gefnogwyr hefyd yng ngogledd Sir Benfro.

Mae mwy o wybodaeth a mapiau yn dangos y cyfyngiadau gyda llwybrau gwyro i'w gweld ar wefan Challenge Wales, lle mae gwybodaeth bwysig i ofalwyr hefyd.

Dylai unrhyw un sydd angen mwy o wybodaeth anfon e-bost at info@activitywalesevents.com

Mae'r trefnwyr eleni wedi cynnwys rhanbarth Abergwaun ac Wdig yn rhaglen waddol LCW Princes Gate. Mae'r fenter hon yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn rhaglenni addysgol fel y rhaglen dysgu nofio a gynhelir mewn ysgolion.