English icon English
Ci ar traeth

Cyfyngiadau ar gŵn ar waith ar rai traethau yn Sir Benfro

Dog restrictions in place on some Pembrokeshire beaches

Mae perchnogion cŵn yn cael eu hatgoffa bod cyfyngiadau tymhorol ar waith ar ein ffrindiau pedair coes ar rai o draethau’r Sir.

Er bod llawer o draethau Sir Benfro yn croesawu cŵn drwy gydol y flwyddyn, mae rhai cyfyngiadau rhwng 1 Mai a 30 Medi ar y traethau mwyaf poblogaidd.

Rhwng y dyddiadau hyn mae gwaharddiadau llwyr ar gŵn ar Draeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod ac ar Borth Mawr (Whitesands).

Mae gwaharddiadau rhannol ar gŵn yn Lydstep, traeth a banc cerrig Niwgwl, Coppet Hall (gwirfoddol), traeth a phromenâd Saundersfoot, Castell Dinbych-y-pysgod a Thraeth y De, traeth a phromenâd Amroth, Traeth Poppit, Gogledd Aberllydan a Dale.

Mae hyn yn golygu bod rhai ardaloedd o'r traeth lle na chaniateir cŵn er mwyn cyd-fynd â gofynion Statws Baner Las ar gyfer ein traethau arobryn ac mae'n sicrhau bod pob ymwelydd yn mwynhau eu hamser ar ein traethau gwych.

Gallwch weld a lawrlwytho mapiau o'r traethau a'r cyfyngiadau sydd ar waith ar wefan Ymweld â Sir Benfro. Mae'r ardaloedd â chyfyngiadau hefyd yn cael eu harddangos ar hysbysfyrddau a byrddau gwybodaeth ar y traeth perthnasol – mae gwybodaeth hefyd am y cyfyngiadau ar ein holl fyrddau gwybodaeth ar y traethau.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: "Rydym yn ffodus iawn i fod a chymaint o draethau lle gall pobl ymweld â nhw gyda’u hanifeiliaid anwes drwy gydol y flwyddyn.

“Mae cyfyngiadau ar gŵn ar waith ar rai traethau dros gyfnod yr haf er mwyn i bawb fwynhau eu hamser wrth y môr. Mae'r traethau sydd â chyfyngiadau rhannol yn dal i fod ag ardaloedd lle gellir cerdded cŵn / rhoi ymarfer corff i gŵn – edrychwch ar y byrddau gwybodaeth.

“Dros yr haf byddwn yn gweithredu dull sy'n canolbwyntio ar addysgu yn hytrach na gorfodi. Mae hyn yn golygu, er y bydd swyddogion gorfodi yn goruchwylio'r cyfyngiadau'n lleol, bydd rhybudd yn cael ei gyhoeddi am y drosedd gyntaf, yn hytrach na hysbysiad cosb benodedig - fodd bynnag, gofynnir i berchennog y ci adael yr ardal gyfyngedig yn brydlon.

“Fodd bynnag, bydd hysbysiadau cosb penodedig yn cael eu cyflwyno os bydd rhywun yn mynd i'r ardaloedd cyfyngedig dro ar ôl tro gyda’u ci yn dilyn cael rhybudd neu os na fydd yn gadael pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn taro cydbwysedd ac rydym yn diolch i berchnogion cŵn ymlaen llaw am eu cydweithrediad.”

“Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r amser yn yr awyr agored gyda'ch cŵn, ond cefnogwch ni hefyd trwy gadw at y cyfyngiadau hyn.”