Cyhoeddi enwau'r ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol
Names of candidates standing for General Election published
Mae'r Datganiad am y Sawl a Enwebwyd i’w hethol yng Nghanolbarth a De Sir Benfro wedi ei gyhoeddi heno (7 Mehefin).
Roedd gan y rhai oedd am sefyll yn Etholiad Seneddol y DU ym mis Gorffennaf tan 4pm ar 7 Mehefin i gyflwyno papurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau (Dros Dro).
Mae'r bobl ganlynol wedi eu henwebu i’w hethol fel aelod o Senedd y DU dros etholaeth Canolbarth a De Sir Benfro: Hanna Andersen (Women’s Equality Party);
Alistair Cameron (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru);
Stephen Crabb (Plaid Geidwadol Cymru);
Stuart Marchant (Reform UK);
James Purchase (Plaid Werdd);
Vusi Siphika (Annibynnol);
Cris Tomos (Plaid Cymru);
Henry Tufnell (Llafur Cymru).
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor.
Bydd yr Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf a’r cyfnod pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.
Mae Canolbarth a De Sir Benfro yn etholaeth newydd yn dilyn adolygu ffiniau, a bellach mae rhai o ardaloedd gogledd y sir wedi'u cynnwys yn etholaeth Preseli Ceredigion.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Y Comisiwn Ffiniau i Cymru.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 18 Mehefin. Ewch i https://www.gov.uk/vote-uk-election
Os byddai'n well gennych anfon pleidlais drwy'r post, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5pm ddydd Mercher, 19 Mehefin ac os oes angen pleidlais drwy ddirprwy, rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin.
Bydd angen prawf adnabod ffotograffig arnoch hefyd i bleidleisio'n bersonol ond os nad oes gennych brawf adnabod gwnewch gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr cyn 26 Mehefin.