Gorsaf Bleidleisio Polling station Gorsaf Bleidleisio Polling station

Cyhoeddi hysbysiad isetholiad ar gyfer ward Canol Doc Penfro

By-election notice issued for Pembroke Dock Central ward

Rhannu:

Mae Hysbysiad Etholiad ar gyfer Canol Doc Penfro wedi'i gyhoeddi heddiw, 3 Tachwedd 2026.

Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno sefyll yn yr etholiad gyflwyno eu papurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau rhwng 3 Tachwedd ac 11 Tachwedd, rhwng 10am a 4pm. Mae rhagor o fanylion ynglŷn ag enwebiadau ar gael yn yr Hysbysiad Etholiad.

Am ragor o wybodaeth ac i gael papurau enwebu, anfonwch e-bost at electoralservices@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch rif Llinell Gymorth Etholiadau ar 01437 775844. 

Bydd y Datganiad o Bersonau a Enwebwyd yn cael ei gyhoeddi ar ôl cau'r enwebiadau. Os bydd angen, cynhelir y bleidlais isetholiad ar ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Gynghorydd, mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Gwasanaethau Democrataidd gwefan y Cyngor.

Rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn hanner nos ar 20 Tachwedd. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Dywedodd Will Bramble, y Swyddog Canlyniadau: "Byddwn yn annog trigolion y ward i gofrestru i bleidleisio a phleidleisio yn yr etholiad sydd i ddod."

Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad a fydd yn nodi pa orsaf bleidleisio i fwrw eu pleidlais ynddi.