English icon English
A Ballot Box on a table with the words polling station written in English and Welsh.

Cyhoeddi ymgeiswyr Is-etholiad Yr Aberoedd

Candidates for The Havens By-Election published

Mae pedwar ymgeisydd wedi cyflwyno eu hunain yn is-etholiad Yr Aberoedd, sydd wedi ei alw yn dilyn marwolaeth drist y Cynghorydd Sir Peter Morgan.

Mae'r enwebiadau wedi cau a Datganiad am y Sawl a Enwebwyd wedi’i gyhoeddi.

Y rhai fydd yn sefyll etholiad yw: Jony Griff (Annibynnol); Mike Harris (Annibynnol); Thomas James Hughes (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) a Nick Neumann (Plaid Geidwadol Cymru).

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ddydd Iau, 10 Hydref.

Rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn hanner nos ar 24 Medi.

Rhaid i newidiadau i'r trefniadau presennol ar gyfer pleidleisio drwy'r post gan etholwyr neu eu dirprwyon sydd eisoes â phleidlais bost cyfnod amhenodol neu gyfnod penodol, neu geisiadau pleidlais bost newydd (agor mewn tab newydd), gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm fan bellaf ar 25 Medi.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy (agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm fan bellaf ar 2 Hydref.

Bydd Cardiau Pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad a fydd yn nodi pa orsaf bleidleisio i bleidleisio ynddi.