Cyn-rheilffordd Cardi Bach o bosib am newid i fod yn llwybr cerdded a seiclo
Former Cardi Bach railway line potentially to become walking and cycling path
Mae Cynghorau Sir Benfro a Sir Gâr wedi trefnu digwyddiad ymgysylltu ar drawsnewid yr hen reilffordd Cardi Bach mewn i lwybr cerdded a seiclo newydd.
Mae’r ddau awdurdod lleol wedi bod yn cydweithio â Sustrans Cymru, yr elusen sy’n ei wneud yn haws i bawb cerdded, olwyno, a seiclo, i astudio’r hen lwybr efo’r nod o adeiladu llwybr cerdded a seiclo newydd gyd-ddefnyddio.
Yr amcan hirdymor yw i’r llwybr cysylltu Aberteifi yn y gogledd efo Hendy-gwyn ar Daf yn y de, gan greu llwybr di-draffig i drigolion lleol a thwristiaid i’w ddefnyddio.
Dywedodd Aoife Blight, Rheolwr Prosiect ar gyfer Sustrans Cymru, “Rydym yn weld cymaint o botensial ar gyfer ail-gysylltu cymunedau ar hyd y ffordd yma.
“Gwyddom o’n hymweliadau i’r ardal faint olygodd y ffordd yma i bobl yn y gorffennol, a sut byddent yn caru gweld y ffordd yma’n brysur efo pobl yn teithio’n llesol ar ei hyd i ymweld â ffrindiau a theulu.
“Gobeithiwn gall y ffordd cysylltu i’r rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy ehangach hefyd un diwrnod.”
Mae Sustrans Cymru nawr, ar ran y cynghorau, yn gofyn am adborth o’r bobl sy’n byw, gweithio, a theithio yn yr ardal a all elwa o’r ffordd newydd.
Mae Sustrans Cymru’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar rannau o’r llwybr rhwng Crymych a Llanfyrnach yn Sir Benfro, ac o Glandwr i Langlydwen yn Sir Gâr, ar gyfer ei astudiaethau dichonoldeb.
Nod y cynllun yw i’w wneud yn haws i bobl dewis cerdded, olwyno, a seiclo er mwyn cyrraedd gwasanaethau lleol, ac i gysylltu’r cymunedau ar hyd y ffordd sydd wedi bod ar wahân ers caead y rheilffordd.
Mae’r prosiect yma’n bosib diolch i’r Gronfa Teithio Llesol, sef cronfa gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi awdurdodau lleol Cymreig i ddatblygu, hyrwyddo, a chefnogi cynlluniau teithio llesol - cerdded, olwyno, a seiclo - yn eu hardal nhw.
Mae mwy o wybodaeth ar y gronfa ar gael trwy’r ddolen yma Llyw Cymru.
Bydd sesiwn galw heibio cyhoeddus am gael ei gynnal ar y 16eg o Ionawr ym mhrif neuadd Ysgol Bro Preseli o 2.30yh i 4.30yh ac o 5.30yh i 7.30yh.
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad byr gan staff prosiect Sustrans Cymru ar gynnydd y prosiect hyd yn hyn.
Dywedodd Cynghorydd Rhys Sinnet, “Dyma gyfle i’r gymuned cael diweddariadau o’n hymgynghorwyr, Sustrans, ar y prosiect pwysig yma.
“Bydd ffordd cerdded a seiclo Cardi Bach, rhywbeth gobeithiwn bydd yn gaffaeliad i’r ardal, yn cynnig ffordd sydd am gysylltu cymunedau lleol ac annog twristiaid i ymweld, gan helpu adfywio economi’r ardal.”
Bydd gan aelodau’r cyhoedd y cyfle i gwrdd â’r tîm prosiect hefyd, i ofyn cwestiynau, a chynnig adborth ar y ffordd awgrymedig.
Dywedodd Cynghorydd Shon Rees, “Edrychwn ymlaen at groesawi bobl i’r digwyddiad yma.
“Gobeithiwn bydd y gymuned yn rhannu ei syniadau ac atgofion o Gardi Bach efo ni a all, trwy’r cynllun yma, dod yn ffordd a gerir gan bawb ar gyfer y gymuned unwaith yn rhagor.
“Fel ffordd cerdded a seiclo bydd yn caniatáu teithiau i gael ei wneud mewn ffordd fwy cynaliadwy sy’n well ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer iechyd defnyddwyr.
“Mae gan y llwybr y potensial i fod yn ffordd o ansawdd uchel ac atyniad i ymwelwyr i ogledd Sir Benfro a Sir Gâr.
“Roedd y Cardi Bach, ac mae’n dal i fod, yn rhan fawr o bentref Crymych ac rydym yn hollol ymroddedig at ei agor er mewn i bawb ei fwynhau.”
Mae Cynghorau Sir Benfro a Sir Gâr yn ymroddedig at hyrwyddo mwy o opsiynau teithio llesol a chynaliadwy yn yr ardal, ac mae’r ymgynghoriad yma’n cam pwysig tuag at gyflawni’r nod yma.
Mae copïau papur, hawdd ei ddeall, a phrint bras o ddeunydd ymgysylltu ar gael - cysylltwch â Sustrans Cymru ar e-bost web@sustrans.org.uk