Cyngor Sir Penfro yn derbyn adroddiad cadarnhaol gan banel annibynnol
Pembrokeshire County Council receives positive report from independent panel
Ym mis Hydref 2025, ymgymerodd grŵp o gymheiriaid allanol ag ymweliad pedwar diwrnod â'r Cyngor gan werthuso meysydd perfformiad allweddol trwy broses a elwir yn Asesiad Perfformiad gan Banel.
Mae'n ofynnol i'r Cyngor drwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ymgymryd ag Asesiad Perfformiad gan Banel unwaith ym mhob cylch etholiadol. Diben yr Asesiad Perfformiad gan Banel yw darparu barn annibynnol, arbenigol i nodi a yw'r Cyngor yn defnyddio ei swyddogaethau yn effeithiol, sut mae'n defnyddio ei adnoddau, ac a yw trefniadau llywodraethu yn effeithiol.
Arweiniwyd y Panel gan bedwar aelod sef Phil Roberts (Cadeirydd Annibynnol a chyn Brif Weithredwr Cyngor Abertawe), y Cynghorydd Anthony Hunt (Arweinydd Cyngor Torfaen), Emma Palmer (Prif Weithredwr Cyngor Powys) ac Andrea Street OBE (yn cynrychioli'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ehangach).
Mae'r Cyngor yn falch o nodi bod adroddiad terfynol y Panel yn dod i'r casgliad bod y Cyngor yn bodloni ei ofynion statudol o ran perfformiad ac yn gwneud sylwadau ffafriol ar sawl agwedd ar waith y Cyngor, gan gydnabod Cyngor effeithiol sydd wedi dangos gwelliant ar draws nifer o feysydd allweddol ac sydd wedi ymateb yn dda i sefyllfa ariannol heriol.
Yn benodol, nododd y Panel "gabinet cydlynol, sydd er gwaethaf ei drefniadau clymblaid enfys, yn ymarfer model o arweinyddiaeth wedi’i dosbarthu sy'n arbennig o effeithiol" ac "Uwch Dîm Arweinyddiaeth Estynedig ymroddedig sy’n cydnabod y daith o welliant y mae'r cyngor wedi bod arni o dan arweinyddiaeth gref y Prif Weithredwr”.
Yn ogystal â hyn, nododd y Panel "set eang o werthoedd ac ymddygiadau a ddangosir yn gyson ar draws y sefydliad, o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i’r staff rheng flaen... ac awydd gwirioneddol i weithio er budd cymunedau a thrigolion y sir.”
Mae adroddiad y Panel yn cynnig mewnwelediad a safbwyntiau gwerthfawr ynghylch meysydd lle gall y Cyngor barhau i wella a chryfhau ymhellach drwy saith argymhelliad, sy'n cwmpasu meysydd fel y swyddogaeth graffu, capasiti corfforaethol, arweinyddiaeth gydweithredol, capasiti adfywio economaidd, blaenoriaethu adnoddau, cyfathrebu, a thrawsnewid ac arloesi.
Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Arweinydd y Cyngor: "Roedd hwn yn brofiad hynod gadarnhaol i'r Cyngor, ac yn gyfle i ddysgu ac elwa o farn a safbwyntiau arbenigwyr annibynnol o'r tu allan i'r Cyngor. Rydym yn croesawu'r sicrwydd a ddarparwyd gan y Panel ein bod ar y trywydd iawn, a'r adborth sydd wedi helpu i nodi'r cyfleoedd a'r meysydd i'w gwella.”
“Hoffwn gofnodi ein diolch i aelodau'r Panel am eu gwaith, a hefyd i swyddogion o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a ddarparodd gefnogaeth werthfawr i sicrhau bod y broses gyfan yn rhedeg yn esmwyth.”
Yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, mae'r Cyngor wedi datblygu cynllun ymateb a gweithredu ffurfiol i ddangos sut y bydd yn ymateb i argymhellion y Panel, a bydd y casgliadau hyn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar 9 Chwefror, ac i'r Cyngor llawn ar 5 Mawrth i'w cymeradwyo'n ffurfiol.