Cynigion i newid statws ysgol wedi dod i ben
Proposals to alter school status ended
Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo argymhelliad i beidio â bwrw ymlaen â chynigion i newid statws Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Cilgerran yn dilyn ymgynghoriad statudol.
Argymhellodd adroddiad i'r Cyngor Llawn y dylid gwneud penderfyniad i beidio â pharhau â’r bwriad i gau Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Cilgerran a sefydlu Ysgol Gymunedol 3-11 ar yr un safle.
Cyflwynwyd y cynigion mewn ymateb i leihad yn nifer y disgyblion yn ardal y Preseli, gan gynnwys Ysgol Cilgerran, ac nid yw'n bosibl ystyried Ffederasiwn rhwng ysgol yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgolion Cymunedol yn y dyfodol, gan wneud cynaliadwyedd tymor hwy Ysgol Cilgerran yn ansicr.
Er bod y materion hyn yn parhau, byddai'r dadleuon a fynegwyd gan yr Esgobaeth, mewn perthynas â threfniadau cyfreithiol ar gyfer sicrhau meddiannaeth barhaus o adeiladau'r ysgol, pe bai'r cynnig yn cael ei weithredu, yn debygol o arwain at gyfnod estynedig o ansicrwydd i gymuned yr ysgol.
Mae Cyngor Sir Penfro yn gwerthfawrogi gwrthwynebiad yr Esgobaeth i'r cynigion a fyddai wedi golygu y byddai'r ysgol yr Eglwys yng Nghymru agosaf yn yr ardal bellter sylweddol i ffwrdd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Paul Miller: "Mae'n amlwg bod cefnogaeth gref o fewn y gymuned i gynnal statws Eglwys yng Nghymru yr ysgol sy'n amlwg yn yr ymateb i'r ymgynghoriad ac yn y safbwyntiau a fynegwyd gan arweinwyr ysgolion pan ymwelais â'r ysgol ym mis Medi.
“Yn ogystal â hyn, mae gwahaniaeth barn rhwng y Cyngor a'r Esgobaeth ynglŷn â goblygiadau cyfreithiol rhoi'r gorau i'r ysgol bresennol a'r trefniadau ar gyfer parhau i feddiannu'r safle. Gallai fod angen trafodaethau pellach a chynnal achosion cyfreithiol hir i ddatrys y materion hynny, heb unrhyw sicrwydd dros amserlenni neu ganlyniadau.
“Nid yw bwrw ymlaen dan yr amgylchiadau hyn yn gymesur â'r canlyniad yr ydym yn ei geisio a fy marn i yw na fyddai bwrw ymlaen er budd cymuned yr ysgol."
Croesawyd y penderfyniad gan yr Esgobaeth, a dywedodd Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth, Iwan Thomas: "Mae ein safbwynt ni, a safbwynt cymuned yr ysgol, bob amser wedi bod yn glir. Gyda 97% o’r rhieni a ymatebodd i'r arolwg yn cefnogi cadw statws yr ysgol yn un Eglwys yng Nghymru, roeddem yn credu'n gryf nad oedd y newid arfaethedig er budd cymuned yr ysgol nac yn gyson â'r sylfeini cyfreithiol y sefydlwyd yr ysgol arnynt.
“Rydym yn ddiolchgar i swyddogion y Cyngor sydd wedi ymgysylltu'n adeiladol â'r Esgobaeth i gydnabod cymhlethdodau'r sefyllfa a chyrraedd canlyniad sy'n rhoi cymuned yr ysgol yn gyntaf.
“Mae'r penderfyniad hwn yn parchu'r egwyddorion y sefydlwyd Ysgol Cilgerran arnynt ac y mae'n parhau i'w cynnal mor llwyddiannus heddiw. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Sir Penfro a chymuned yr ysgol i sicrhau dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy i'r ysgol."