Cynllun newydd i helpu adfywio canol trefi lleol
New scheme to help revitalise local town centres
Mae Cyngor Sir Penfro wedi lansio cynllun newydd i gefnogi canol trefi drwy helpu perchnogion eiddo i adfywio eu heiddo.
Mae'r Cynllun Paentio Strydlun yn cael ei lansio yn Stryd Charles, Aberdaugleddau cyn iddo gael ei ehangu i gynnwys canol trefi eraill yn Sir Benfro - a bydd manylion yn cael eu cyhoeddi yn unol â hynny.
Wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) Llywodraeth y DU, mae'r cynllun yn rhan o Raglen Gwella Strydoedd y Cyngor.
Mae'n galluogi perchnogion eiddo mewn ardaloedd cymwys i wneud cais am grantiau i baentio tu allan i'w heiddo. Bydd y grant yn darparu 80% o gyfanswm y gwariant cyfalaf.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar faterion Lle, y Rhanbarth a Newid yn yr Hinsawdd, fod y cynllun yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i adfywio yn Sir Benfro.
"Rydyn ni eisiau cefnogi canol ein trefi ym mhob ffordd y gallwn ni ac mae hyn yn enghraifft arall o gefnogaeth rydyn ni'n ei darparu," meddai.
"Nod y cynllun hwn yw eu helpu i ffynnu drwy wella golwg gyffredinol yr ardal gyfagos - er mwyn hybu nifer yr ymwelwyr, cefnogi busnesau i greu swyddi newydd, a chryfhau'r gymysgedd o fusnesau."
Mae'r Cynghorydd Sirol lleol, y Cynghorydd Terry Davies, yn gefnogol i'r fenter.
"Nod y grant paentio yw darparu gwelliant uniongyrchol y gellir sylwi arno ar unwaith i atyniad cyffredinol Stryd Charles," meddai'r Cynghorydd Davies.
"Mae'n ymyrraeth wedi'i thargedu sy'n rhedeg am flwyddyn felly byddwn i’n annog ymateb cynnar gan berchnogion adeiladau a deiliaid i sicrhau cefnogaeth ariannol tra mae ar gael."
Bydd y gronfa'n cefnogi perchnogion eiddo cymwys a thenantiaid/lesddeiliaid sydd â chaniatâd ysgrifenedig perchennog yr eiddo. Gellir defnyddio grantiau ar gyfer prynu deunyddiau (primydd, tanbaent cerrig a phaent cerrig allanol) neu tuag at gost defnyddio contractwr. Uchafswm y grant ar gyfer pob eiddo yw £4,999. Rhaid cwblhau'r cynlluniau erbyn mis Tachwedd 2024.
Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Paentio Strydlun, gan gynnwys manylion am gymhwysedd grant a dolen i wneud cais am y cynllun,
- neu e-bostiwch spfstreetenhancement@pembrokeshire.gov.uk