
Cynlluniau adfywio mawr yn symud ymlaen i’r cam uchelgeisiol nesaf
Grand regeneration plans move on to next ambitious stage
Mae gwaith gan Gyngor Sir Penfro (CSP) i adfer ac ailddatblygu Castell Hwlffordd bellach wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser fel rhan o brosiect gwerth £17.7 miliwn a ariannwyd gan Lywodraeth y DU i adfywio Hwlffordd.
Mae safle eiconig Castell Hwlffordd bellach yn barod ar gyfer cam nesaf y datblygiad i’w drawsnewid yn atyniad newydd gwych i ymwelwyr ar gyfer y dref a’r sir ehangach.
Dolen i’r fideo Saesneg: Haverfordwest Castle Redevelopment Project
Dolen i’r fideo Cymraeg:Prosiect Ailddatblygu Castell Hwlffordd
Dros y chwe mis diwethaf mae waliau’r heneb gofrestredig hon wedi’u hatgyweirio’n ofalus gan gadwraethwyr adeiladau treftadaeth arbenigol, iBEX. Mae cloddiadau archaeolegol wedi cael eu gwneud gan Heneb (Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru), mae’r beili mewnol wedi’i ail-dirlunio mewn ffordd hyfryd ar gyfer digwyddiadau a chyngherddau awyr agored, ac mae gwaith paratoi ar adeilad hen garchar y sir bellach wedi’i gwblhau gan gontractwr y safle, Morgan Sindall.
Mae’r gwaith ar y carchar bellach wedi symud i’r cam nesaf, ac mae’r gwaith o droi’r adeilad yn fan sy’n addas ar gyfer atyniad ymwelwyr o’r radd flaenaf sy’n seiliedig ar dreftadaeth a’r amgylchedd, wedi dechrau.
Bydd yr atyniad newydd i ymwelwyr yn adrodd hanes gorffennol a dyfodol posibl Sir Benfro yn adeilad y carchar ar ei newydd wedd, gan ddefnyddio technoleg flaengar ac arloesol ac arddangosfeydd rhyngweithiol. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys amgueddfa Hwlffordd a fydd wedi’i hailwampio yn Nhŷ’r Llywodraethwr sy’n adeilad rhestredig gradd II, yn ogystal ag arwyddion dehongli awyr agored am ddim ar dir y castell.
Mae grant datblygu cychwynnol o £368,525* wedi’i sicrhau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y cam dylunio i osod cyfleusterau yn yr atyniad, a dyfarnwyd contract i The Creative Core, sy’n arwain y farchnad yn y DU ym maes dehongli a dylunio amgueddfeydd, er mwyn gwneud y gwaith hwn. Bydd cyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan mewn grwpiau ffocws, arolygon, a gweithdai peilot i helpu i lunio cynnwys y gofodau arddangos trwy gydol 2025.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid yn yr Hinsawdd, y Cynghorydd Paul Miller: “Rydym yn llawn cyffro i weld y prosiect uchelgeisiol hwn yn mynd rhagddo, ac mae’r cam nesaf hwn yn dod â ni’n llawer agosach at yr hyn a fydd yn atyniad treftadaeth blaenllaw, gan roi hwb nid yn unig i economi’r dref ond hefyd yr ardal ehangach.”
Ychwanegodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Thomas Tudor: “Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn mynd rhagddo, mae castell ein tref yn rhywbeth i fod yn falch ohono ac rydym am ei wneud yn gyrchfan go iawn i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd.”
Mae CSP a’i bartner Sefydliad Corfforedig Elusennol Castell Hwlffordd yn y broses o geisio sicrhau cyllid pellach, gyda chymorth unigolion sy’n codi arian yn broffesiynol, i gwblhau’r gwaith o gyflawni’r cynllun.
Mae’r prosiect wedi bod ar y gweill ers bron i ddeng mlynedd, ac mae wedi’i ddatblygu ar y cyd â grŵp gweithgar o randdeiliaid cymunedol. Pan fydd ar agor, bydd yr atyniad yn cael ei redeg gan Sefydliad Corfforedig Elusennol Castell Hwlffordd, sefydliad elusennol annibynnol sydd wedi dod i’r amlwg o’r grŵp rhanddeiliaid.
Bydd yn darparu atyniad ymwelwyr o safon uchel ac ar gyfer pob tymor yng nghanol Sir Benfro, gan ddenu ymwelwyr a phobl leol, gan gynnwys grwpiau ysgolion. Bydd hefyd yn annog ymwelwyr i ymweld â rhannau eraill o Sir Benfro drwy roi blas o’r hyn sydd ar gael yn y sir gyfan.