Cynlluniau ar y gweill i gynnig am gyllid grant i ailagor llwybr poblogaidd
Plans underway for grant funding bid to reopen popular path
Mae Cyngor Sir Penfro yn cwblhau cynlluniau i wneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru i atgyweirio ac ailagor y llwybr o Wiseman's Bridge i Saundersfoot a gaewyd yn ddiweddar.
Bu'n rhaid cau'r llwybr poblogaidd, sydd hefyd yn rhan o Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, am resymau diogelwch yn dilyn tirlithriadau ym mis Tachwedd, mis Rhagfyr ac yn fwyaf diweddar ym mis Chwefror.
Mae Cyngor Sir Penfro yn deall y pryder ymhlith trigolion am fynediad lleol a bod angen cynllun i fynd i'r afael â'r broblem o dirlithriadau a briodolir i law trwm dros y misoedd diwethaf.
Bydd gwaith sefydlogi clogwyni ar lwybrau defnydd a rennir yn cael ei drafod yn y Cabinet ar 11 Mawrth, a fydd yn cynnwys pwyslais ar gyllid posibl.
Mae'r llwybr hefyd yn rhan o Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ac mae'n un o'r rhai hiraf yn y DU. Daeth 481,684 o ymwelwyr ar hyd y llwybr yn 2023 a oedd yn hanfodol i gefnogi'r economi leol yn Saundersfoot.
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Teithio Llesol Cymru i gyflwyno cais am waith ariannu i adfer y cysylltiad.
Bu ymweliad diweddar â Saundersfoot i weld llwybrau cerdded a beicio o fewn y pentref, ynghyd ag ardal y tirlithriad.
Rhagwelir y gellir cyflwyno cais am gyllid Llywodraeth Cymru o fewn y cynllun Teithio Llesol i helpu i dalu cost y gwaith adfer sydd ei angen.
Bydd hyn yn cynnwys clirio'r ardal ac ymgymryd â gwaith diogelwch peirianyddol i ailsefydlogi'r clogwyn yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt.
Ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCNPA), gellid cyflwyno ail gais am gyllid drwy Gronfa Prosiectau Beicio Partneriaeth y Parciau Cenedlaethol.
Yn y cyfamser, mae perygl parhaus o y bydd rhagor o greigiau yn cwympo a gofynnir i'r cyhoedd barchu’r ffaith bod y llwybr wedi’i gau ac osgoi'r ardal.