English icon English
A Ballot Box on a table with the words polling station written in English and Welsh.

Cynnal isetholiad yn Aberdaugleddau Hakin

A by-election will be held in Milford Hakin

Bydd Rhybydd o Etholiad yn Aberdaugleddau: Hakin yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, 10 Chwefror 2026.

Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno sefyll yn yr etholiad gyflwyno eu papurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau rhwng 11 Chwefror a 18 Chwefror, rhwng 10am a 4pm. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ynglŷn ag enwebiadau ar y Rhybydd o Etholiad pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael papurau enwebu, anfonwch e-bost at electoralservices@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch rif y Llinell Gymorth Etholiadau 01437 775844.

Bydd y Datganiad o Bersonau a Enwebwyd yn cael ei gyhoeddi ar ôl cau'r enwebiadau. Os bydd mwy nag un ymgeisydd bydd isetholiad yn cael ei chynnal ddydd Mawrth, 17 Mawrth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynghorydd, mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Gwasanaethau Democrataidd ar wefan y Cyngor.

Mae manylion sut i gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.

Dywedodd y Swyddog Canlyniadau Will Bramble: "Byddwn yn annog trigolion y ward i gofrestru i bleidleisio a phleidleisio yn yr etholiad sydd i ddod."

Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad a fydd yn nodi pa orsaf bleidleisio i fynd iddi.