Cynnydd cadarnhaol wrth adfywio Cei y De yn gofyn am gau meysydd parcio
Positive progress on South Quay regeneration requires car park closure
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar gam olaf Datblygiad Cei y De ym Mhenfro.
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys atyniad i ymwelwyr, llyfrgell a chaffi newydd, gerddi hanesyddol wedi'u hadfer a'u gwella o fewn lleiniau tir y bwrdeisiaid a chanolbwynt cymunedol Penfro, sy'n cynnig gwasanaethau cymorth a chyfleusterau cymunedol i Benfro a de Sir Benfro.
Oherwydd y gwaith helaeth bydd rhaid cau Maes Parcio Cei y De o ddydd Llun, 12 Awst er mwyn caniatáu i'r gwaith adeiladu ddechrau ar brosiectau adfywio Cei y De.
Bydd mynediad i’r llithrfa yn parhau gyda'r ffordd yn cael ei dargyfeirio i ddilyn y rheiliau i ochr yr afon y Maes Parcio.
Er mwyn hwyluso'r gwaith hwn, bydd y Toiledau Cyhoeddus sydd wedi'u lleoli yng Nghei y De hefyd ar gau o ddydd Llun, 12 Awst, gyda chyfleusterau eraill ar gael ym maes parcio y Comins a’r Prif Stryd.
Bydd cyfleusterau toiledau cyhoeddus gwell yn cael eu darparu fel rhan o’r datblygiad newydd
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Trigolion: "Rydym yn gwerthfawrogi y bydd cau'r cyfleusterau ar Gei y De yn achosi rhywfaint o anghyfleustra, yn enwedig yn ystod tymor prysur yr haf.
"Mae'r prosiect yn mynd rhagddo'n dda a bydd yn creu gwell cyfleusterau ymwelwyr a chymunedol ar gyfer yr ardal hon, gan gynnig gwasanaethau, atyniadau a swyddi i dref Penfro."
Dywedodd yr Aelodau Lleol y Cynghorwyr Aaron Carey a Jonathan Grimes: "Mae'n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y safle unwaith eto. Mae'n drueni bod yn rhaid cau'r maes parcio yng nghanol tymor y gwyliau ond yn anffodus, nid oes modd osgoi hynny."
Mae rhagor o wybodaeth am barcio amgen a chyfleusterau toiledau cyhoeddus ar gael ar wefan y Cyngor.