Cystadleuaeth genedlaethol yn dod â gweithdy am ddim i awduron heb gynrychiolaeth ddigonol i Lyfrgell Glan-yr-afon
National competition brings free workshop for underrepresented writers to The Riverside Library
Mae Llyfrgell Glan-yr-afon yn Hwlffordd wedi ennill cystadleuaeth All Stories genedlaethol i gynnal gweithdy wedi'i ariannu'n llawn, sy'n ceisio annog a chefnogi darpar awduron o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Bydd y gweithdy, a gynhelir ddydd Llun, 25 Tachwedd am 2pm yn cyflwyno’r rhai sy’n cymryd rhan i hanfodion ysgrifennu ar gyfer plant ac yn eu hysbrydoli i ddatblygu eu creadigrwydd.
Bwriad y gweithdy yw rhoi cyflwyniad sylfaenol felly nid oes angen unrhyw ymwybyddiaeth o gyhoeddi, ysgrifennu fel gyrfa na gwaith ysgrifenedig blaenorol.
Mae'r gweithdy'n croesawu pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol o unrhyw fath, gan gynnwys pobl o liw, anabl, niwroamrywiol, LHDTC+, dosbarth gweithiol a’r rhai sydd wedi’u hymylu yn economaidd-gymdeithasol.
Mae'r gweithdy yn un o 16 o weithdai All Stories sy'n cael eu cynnal ledled y DU, ac mae'n bosibl oherwydd cyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Inclusive Books for Children a’r Authors’ Licencing and Collecting Society.
Bydd All Stories hefyd yn sefydlu grŵp ysgrifennu yn Llyfrgell Glan-yr-afon i barhau i gefnogi awduron lleol, yn ogystal â darparu pecyn 'adnoddau awdur', sy'n cynnwys gwybodaeth am sefydliadau sy’n cefnogi ysgrifennu. Bydd y pecyn ar gael i gyfranogwyr y gweithdy, ynghyd ag unrhyw un sy'n ymweld â'r lleoliad ar ôl y gweithdy.
Dywedodd tîm y llyfrgell: "Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o'r cyfle cyffrous hwn i gefnogi awduron plant y dyfodol yn ein cymuned. Gobeithiwn y bydd yn ddigwyddiad llwyddiannus i bawb sy'n cymryd rhan ac edrychwn ymlaen at gwrdd â phobl newydd yn ogystal â pharhau â'n perthynas â'r rhai sydd eisoes yn defnyddio'r llyfrgell.”
Bydd y gweithdy'n cael ei gyflwyno gan Eloise Williams, awdur arobryn o Gymru.
Mae hi wedi ysgrifennu saith llyfr i bobl ifanc gan gynnwys Gaslight, Seaglass, Elen’s Island, Honesty & Lies, i gyd gyda Firefly Press a The Tide Singer a The Curio Collectors gyda Barrington Stoke.
Roedd hi'n awdur ac yn gyd-olygydd The Mab, sy’n ail-adrodd straeon Y Mabinogion yn fywiog a gyhoeddwyd gan Unbound. Hi oedd Bardd Plant cyntaf Cymru 2019-2021.
I wybod mwy ac archebu eich lle am ddim yn y gweithdy, ewch i: allstories.org.uk/writing-workshops/
Mae dolen uniongyrchol i’r tocynnau yma: tickettailor.com/events/allstories1/1415035
Os nad ydych yn gallu dod i’r gweithdy yn bersonol, mae All Stories hefyd yn cynnal gweithdai ar-lein. Cynhelir gweithdy ar-lein olaf y flwyddyn ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, 10am-12 canol dydd, a gallwch archebu lle trwy'r DDOLEN hon.