
Cysylltu â phleidleiswyr post ynglŷn â gofynion newydd ar gyfer ailymgeisio
Postal voters to be contacted about new requirements for reapplication
Bydd pleidleiswyr yn Sir Benfro sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer pleidleisiau post yn etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn derbyn llythyrau yn ystod yr wythnosau nesaf yn amlinellu gofynion newydd sy'n dod i rym.
Mae Deddf Etholiadau 2022 wedi cyflwyno newidiadau i'r ffordd rydych chi'n gwneud cais am bleidlais bost mewn etholiadau penodol a pha mor aml y mae angen i chi adnewyddu eich pleidlais bost.
Os ydych yn dymuno parhau i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bydd angen i chi ailymgeisio ac o dan reolau newydd y DU, adnewyddu pob tair blynedd.
Nid yw'r newidiadau yn berthnasol i etholiadau Senedd Cymru nac etholiadau lleol. Nid oes etholiadau lleol yng Nghymru eleni. Yr etholiad nesaf fydd etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.
I wneud cais ewch i www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post. Bydd angen i chi uwchlwytho llun clir o'ch llofnod i gwblhau'r cais.
I gael rhagor o wybodaeth am adnewyddu eich trefniadau pleidleisio drwy'r post -
https://www.sir-benfro.gov.uk/etholiadau-a-phleidleisio/pleidleisiau-post-a-thrwy-ddirprwy neu cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol ar electoralservices@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 775844.