Datganiad i'r wasg: i'w ryddhau ar unwaith
Work to increase housing availability continues
Ar hyn o bryd mae galw mawr am dai ar draws sir Benfro. Mae hwn, ynghyd â’r nifer cyfyngedig o eiddo sydd ar gael i'w gosod, yn broblem sydd hefyd i’w gweld ar raddfa genedlaethol.
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod preswylwyr wedi sylwi ar ostyngiad yn nifer yr eiddo sy'n ymddangos ar hysbyseb wythnosol Cartrefi Dewisedig a bod nifer o gartrefi gwag yn eu hardaloedd lleol nad ydynt yn cael eu hysbysebu o gwbl.
Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau â'i waith i wella ac ehangu ei stoc dai mewn ymgais i fynd i'r afael â'r galw uchel hwn.
Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu gostyngiad yn nifer eiddo'r Cyngor a oedd yn dod yn wag, gan arwain at ostyngiad yn nifer yr eiddo sydd ar gael i'w hailosod.
Yn hanesyddol roedd 10% o stoc y Cyngor ar gyfartaledd ar gael i'w gosod i breswylwyr newydd bob blwyddyn, mae’r nifer wedi gostwng yn ddiweddar i oddeutu 5% yn unig o'r stoc. Mae hyn, yn rhannol, yn esbonio pam y mae llai o eiddo yn ymddangos ar hysbyseb wythnosol Cartrefi Dewisedig.
Mae yna hefyd nifer o resymau pam nad yw tai Cyngor gwag yn ymddangos ar restr Cartrefi Dewisedig cyn gynted ag y byddant yn dod yn wag. Mae'r rhesymau hyn yn cynnwys gwaith adnewyddu mawr sydd angen ei wneud i eiddo. Gallai hyn fod oherwydd nifer o ffactorau ond hefyd er mwyn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Gallai oedi hefyd ddod yn sgil yr angen am waith diweddaru eiddo fel rhan o raglen datgarboneiddio Cyngor Sir Penfro. Hefyd mae gwaith helaeth i uwchraddio eiddo er mwyn atal lleithder yn mynd rhagddo.
Gall rhaglennu gwaith cyfalaf i sicrhau bod rheoliadau diogelwch tân yn cael eu bodloni, hefyd olygu bod angen i flociau o fflatiau a rhywfaint o lety gwarchod aros yn wag fel y gellir trefnu gwaith uwchraddio helaeth neu hyd yn oed gwaith dymchwel.
Mewn sefyllfaoedd fel hyn ac am amryw resymau eraill, defnyddir eiddo gwag weithiau fel eiddo 'adleoli' ar gyfer tenantiaid presennol nad ydynt yn gallu aros yn eu heiddo presennol tra bod gwaith yn mynd rhagddo.
Yn aml, gwneir gwaith cynllunio i sicrhau bod yr eiddo a ddefnyddir fel hyn yn fwy o faint ac mewn ardaloedd lle mae gennym fwy o stoc fel y gellir eu defnyddio fel eiddo adleoli i gymaint o denantiaid â phosibl.
Mae hyn er mwyn atal gwaith diangen ar eiddo eraill i'w codi i'r safon er mwyn eu defnyddio fel eiddo adleoli, am gost ychwanegol. Am y rheswm hwn, ni fydd yr eiddo yn ymddangos ar hysbyseb Cartrefi Dewisedig tan yr amser pan na fydd eu hangen mwyach fel eiddo adleoli.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod o’r Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Rydym yn deall rhwystredigaethau'r rhai sydd wedi bod yn aros am lety addas ers peth amser ond nad ydynt yn gweld y cartrefi yn ymddangos ar y rhestr geisiadau.
"Mae'r gwasanaeth Cynnal a Chadw Adeiladau wedi bod yn recriwtio mwy o staff a chontractwyr i helpu i ateb y galw am y gwaith hwn. Dros y misoedd nesaf mae'n debygol y bydd trigolion yn gweld tai yn cael eu defnyddio eto a bydd nifer o dai yn ymddangos ar hysbyseb Cartrefi Dewisedig unwaith eto."
O 1 Mawrth, mae 5,186 o aelwydydd ar y gofrestr Cartrefi Dewisedig. Gallwch weld ystadegau ynghylch faint o eiddo sy'n cael eu hysbysebu drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â dyddiad bandio a chofrestru'r cynigwyr llwyddiannus ar gyfer pob eiddo trwy ymweld â gwefan Cartrefi Dewisedig a chlicio'r tab 'Cwsmeriaid Newydd'.