Tenby Market Hall visual impression

Datgelu gweledigaeth newydd ar gyfer Neuadd Farchnad Dinbych-y-pysgod – Rydyn ni eisiau clywed eich barn!

New vision unveiled for Tenby Market Hall - We want to hear your views!

Rhannu:

Mae gweledigaeth newydd ar gyfer dyfodol Neuadd Farchnad Dinbych-y-pysgod wedi'i datgelu, gan nodi carreg filltir arwyddocaol mewn prosiect sydd â’r nod o weddnewid un o adeiladau hanesyddol mwyaf eiconig y dref a chefnogi'r gwaith o adfywio canol tref Dinbych-y-pysgod.

Mae’r dyluniad yn cael ei ryddhau wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gan ei gwneud yn bosibl i ddatblygu'r cynlluniau ac mae’n dangos ymrwymiad y Cyngor i ystyried cyfleoedd ar gyfer dyfodol yr ased cymunedol pwysig hwn.

Wedi'u datblygu gan Oochitecture o Sir Benfro, mae'r cynigion yn cyflwyno gweledigaeth ffres a chyfoes ar gyfer y lle gan barchu ei gymeriad hanesyddol.

Mae'r dyluniad yn gwneud cymaint o ddefnydd â phosibl o'r llawr gwaelod, gan hefyd gyflwyno mesanîn llawr cyntaf newydd fydd yn cynyddu’r lle i fasnachwyr, creu cyfleoedd i fusnesau newydd a gwella’r profiad cyffredinol i ymwelwyr.

Nod y cynigion yw creu amgylchedd mwy hyblyg a bywiog a all gefnogi cymysgedd amrywiol o fasnachwyr, annog ymwelwyr i aros yn hirach a chryfhau rôl y Neuadd Farchnad fel cyrchfan allweddol yng nghanol tref Dinbych-y-pysgod.

Mae'r weledigaeth sy'n dod i'r amlwg wedi'i llunio gan adborth a gasglwyd trwy weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a thrafodaethau cynnar gyda masnachwyr y Neuadd Farchnad.

Tynnodd yr ymatebion sylw at bwysigrwydd cadw cymeriad hanesyddol yr adeilad gan greu lle bywiog, cynaliadwy sy'n cefnogi busnesau lleol, yn gwella profiad ymwelwyr ac yn annog mwy o ddefnydd o'r adeilad trwy’r flwyddyn.

Mae'r safbwyntiau hyn wedi llywio datblygiad y cynigion yn uniongyrchol, gan sicrhau bod y cynlluniau yn ymateb i anghenion a dyheadau'r rhai sy'n defnyddio ac yn gwerthfawrogi'r Neuadd Farchnad fwyaf.

Er nad yw'r cyllid ar gyfer cyflawni'r prosiect wedi'i sicrhau eto, mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid ac archwilio cyfleoedd ariannu yn y dyfodol i helpu i wireddu'r weledigaeth hon ar gyfer Neuadd Farchnad Dinbych-y-pysgod.

Mae cyhoeddi'r dyluniad yn nodi'r cam nesaf o ymgysylltu ac yn rhoi cyfle i'r gymuned helpu i lunio dyfodol y prosiect.

Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed ymatebion pellach i'r cynigion. Anogir trigolion, masnachwyr, busnesau ac ymwelwyr i adolygu'r cynlluniau a chwblhau'r holiadur ar gyfer y cyhoedd i ddeall sut mae'r farchnad yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd.

Mae cyfle i chi ddweud eich dweud ar y weledigaeth newydd gyffrous hon a helpu i lunio sut mae'r cynigion yn cael eu datblygu trwy lenwi'r holiadur yma: Holiadur ynghylch y weledigaeth ar gyfer Neuadd Farchnad Dinbych-y-pysgod.

Bydd yr holl ymatebion a dderbynnir yn cael eu hystyried yn ofalus a bydd yn helpu i lywio camau nesaf datblygiad y dyluniad cyn i'r prosiect symud ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg: "Mae'r weledigaeth newydd hon yn dangos potensial y Neuadd Farchnad a Hen Neuadd y Dref i chwarae rôl hyd yn oed mwy yn nyfodol Dinbych-y-pysgod. Mae'r cynigion hyn wedi'u llywio gan adborth lleol ac yn dangos sut y gellid adfywio'r adeilad hanesyddol pwysig hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Bwriad y cynlluniau yw ceisio creu cyrchfan fywiog sy'n cefnogi busnesau lleol, yn darparu cyfleoedd i fasnachwyr newydd ac yn gwella'r profiad i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Er nad yw'r cyllid ar gyfer cyflawni hyn wedi'i sicrhau eto, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r prosiect hwn ac i weithio gyda'r gymuned a'r partneriaid i gyflwyno cynllun cynaliadwy a chyraeddadwy. Byddwn yn annog pawb i edrych ar y cynlluniau a chwblhau'r holiadur i helpu i lunio cam nesaf y prosiect."

Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda masnachwyr, trigolion, partneriaid a'r gymuned ehangach i ddatblygu cynigion sy'n anrhydeddu treftadaeth yr adeilad wrth greu dyfodol cryf a chynaliadwy i'r ased nodedig hwn.