Dathlu 30 mlynedd o’r Criw Craff
Celebrating 30 years of Crucial Crew
Ymunodd aelodau o Gyngor Sir Penfro a South Hook LNG ag asiantaethau partner yn ddiweddar, yn y paratoadau terfynol ar gyfer digwyddiad diogelwch y Criw Craff eleni.
Yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed fis Tachwedd nesaf, mae’r Criw Craff wedi croesawu dros 40,000 o blant ysgol Sir Benfro, sydd wedi cymryd rhan mewn dysgu am ddiogelwch gydol oes.
Pan gynhelir y digwyddiad eleni, bydd 1,400 ychwanegol o blant ysgol lleol yn elwa ar weithdai diogelwch rhyngweithiol, a gynhelir dros gyfnod o bythefnos. Bydd y garreg filltir yn cael ei dathlu gyda’r ysgolion sy’n cymryd rhan, yr asiantaethau—boed yn hen a newydd—sy’n ymroddedig i ddiogelwch plant, ac aelodau’r gymuned ehangach.
Y partneriaid sy’n ymwneud â’r Criw Craff yw timau Diogelwch Ffyrdd, Cludiant Ysgol a Cham-drin Domestig Cyngor Sir Penfro, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, yr RNLI, y Grid Cenedlaethol, Network Rail a Sefydliad John Burns.
Wedi’i gefnogi’n flaenorol gan Burfa Penfro, mae blwyddyn y dathliad arbennig hwn yn nodi 14 mlynedd yn olynol o nawdd gan South Hook.