Dathlu chwaraeon a ffyrdd egnïol o fyw gyda llysgenhadon ifanc Sir Benfro
Sport and active lifestyles celebrated with Pembrokeshire’s Young Ambassadors
Daeth Cynhadledd Llysgenhadon Ifanc diweddar Chwaraeon Sir Benfro â dysgwyr angerddol a brwdfrydig ynghyd o 22 o ysgolion cynradd.
Mae'r llysgenhadon ifanc yn ymroddedig i hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hysgolion a'u cymunedau.
Cymerodd bron i 70 o Lysgenhadon Ifanc Efydd ran mewn nifer o weithdai a gyflwynwyd gan dîm Chwaraeon Sir Benfro gan gynnwys deall arweinyddiaeth, creu cynlluniau gweithredu a chwarae gemau cynhwysol a ysbrydolwyd gan y Gemau Paralympaidd.
Bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdy cymorth cyntaf a chawsant gyfle i glywed gan ddau gyn-lysgennad ifanc – Carys Ribbon a Rhys Llewellyn – am eu teithiau gyda thîm Chwaraeon Sir Benfro.
Cyflwynodd Bleddyn Gibbs, enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd Arbennig yn Berlin, laniardau a llyfrynnau gweithgareddau i'r holl ysgolion a disgyblion a oedd yn bresennol.
Dywedodd Rheolwr Chwaraeon Sir Benfro, Matthew Freeman: “Mae ein llysgenhadon ifanc yn fodelau rôl ar gyfer eu cyfoedion ac yn helpu i annog eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol, ac annog ffyrdd iach o fyw. Mae’n wych eu gweld yn dod at ei gilydd i rannu syniadau ar draws yr holl ysgolion.”
Mae cynllun y Llysgenhadon Ifanc yn cael ei noddi gan Valero, a daeth Stephen Thornton i’r gynhadledd i weld y gwaith mae’r bobl ifanc yn ei wneud.
Ychwanegodd Mr Thornton: “Mae’r rhaglen hon yn ffordd hanfodol o annog gweithgarwch corfforol mewn ysgolion a chymunedau. Mae chwaraeon yn aml yn ffordd i bobl ifanc ddysgu am gyflawniad a llesiant ac mae cyfranogiad yn arwain at ganlyniadau academaidd gwell. Mae Valero yn falch iawn o noddi prosiect sy’n helpu i wella iechyd a llesiant pobl ifanc yn Sir Benfro.”
Bydd cynhadledd Llysgenhadon Ifanc Ysgolion Uwchradd yn cael ei chynnal ym mis Hydref a gall unrhyw ysgolion neu ddisgyblion sydd â diddordeb yn hynny gysylltu â Rominy.colville@pembrokeshire.gov.uk