Winner: Best Individual New Home
Morwennau, Poppit

Dathlu llwyddiant lleol mewn rhagoriaeth adeiladu

Local success in building excellence celebrated

Rhannu:

Mae Tîm Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Penfro yn llongyfarch prosiectau adeiladu lleol am eu llwyddiant yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu yr LABC 2025.

Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu'r LABC yw'r gwobrau busnes-i-fusnes mwyaf yn y sector rheoli adeiladu.

Mae'r gwobrau'n dathlu timau prosiect sydd wedi goresgyn heriau dylunio technegol ac adeiladu cymhleth, ac maent yn rhoi sylw i waith adeiladu arloesol a chreadigol.

Yn Sir Benfro, cafodd Huw Phillips o Cartrefi Deri Homes Ltd, Gavin Oliver o Billy Studio Architects, Luke Barret o LNB Construction Ltd, a Hmad Architects i gyd lwyddiant gyda prosiectau lleol proffil uchel.

Yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rhanbarthol yr LABC Cymru Gyfan 2025, enillodd Morwennau yn Poppit wobr y Cartref Newydd Unigol Gorau, gyda gwaith wedi'i wneud gan Cartrefi Deri Homes Ltd a'r asiantau Billy Studio Architects.

Enillodd LNB Construction Ltd, gyda'r asiantau Hmad Architects, wobr Ranbarthol Cymru am y Trawsnewidiad neu Addasiad Preswyl Gorau i Gartref Presennol gyda Mill Lodge yn Solfach.

Aeth y ddau brosiect ymlaen i'r rowndiau terfynol yn Grosvenor House yn Llundain, lle dathlwyd y prosiectau gorau o bob cwr o'r DU.

 rhagoriaeth adeiladu 2

Dywedodd Rheolwr Rheoli Adeiladu'r Cyngor, Korey Batchelor: "Mae’r Adran Rheoli Adeiladu yn falch iawn o weithio ar y prosiectau hyn, sy'n tynnu sylw at sgiliau ac arloesedd datblygwyr lleol.

“Mae Adran Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Penfro yn falch o fod yn rhan o Wobrau'r LABC. Sefydlwyd gwobrau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) i ddathlu rhagoriaeth a gyflawnwyd trwy safonau adeiladu uchel, arloesedd technegol, a dylunio cynaliadwy.

“Mae'r gwobrau'n gyfle i'r diwydiant ddathlu arferion adeiladu da, gyda'r enillwyr yn profi bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol â thimau rheoli adeiladu cynghorau lleol yn cyflawni adeiladau cynaliadwy o ansawdd uchel.

“Mae'r gwobrau hyn yn unigryw oherwydd eu bod yn cydnabod sut mae'r cydweithrediad hwn yn gwella safonau adeiladu a phroffesiynoldeb ar draws y diwydiant, ac mae'n wych gweld contractwyr, asiantau a dylunwyr lleol yn Sir Benfro yn derbyn cydnabyddiaeth am gyflawni'r safonau hyn.”

Os hoffech gysylltu ag Adran Rheoli Adeiladu yng Nghyngor Sir Penfro, ewch i https://www.sir-benfro.gov.uk/rheoli-adeiladu neu ffoniwch 01437 764551.

 

Yn y Llun:

Enillydd: Cartref Newydd Unigol Gorau
Morwennau, Poppit
Rheolwr Rheoli Adeiladu CSP, Korey Batchelor, Cartrefi Deri Homes Ltd Huw Phillips, Penseiri Billy Studio Gavin Oliver, ac Arweinydd Tîm Ardal Rheoli Adeiladu CSP Andrew James.


Enillydd: Estyniad Preswyl Gorau
Mill Lodge, Middle Mill, Solfach
 Rheolwr rheoli adeiladu CSP Korey Batchelor ac LNB Construction Ltd Luke Barret.