Dathlu llwyddiant y cynllun peilot People PWR wrth gefnogi teuluoedd
Success of People PWR pilot supporting families celebrated
Mae Cyngor Sir Penfro a Chyngor ar Bopeth Sir Benfro (CAP) yn dathlu llwyddiant eu prosiect People PWR (Hawliau Lles Sir Benfro) sy’n canolbwyntio ar hawliau lles.
Lansiwyd People PWR yn 2023 ac mae’n brosiect peilot sy’n defnyddio ymagwedd holistig i gefnogi teuluoedd sy’n dioddef neu mewn perygl o ddioddef tlodi a’r effeithiau cysylltiedig.
Mae tîm People PWR, wedi’u hysbrydoli gan lwyddiant Maximise! yn yr Alban, yn canolbwyntio ar ymgysylltu â theuluoedd sydd â phlant oed ysgol, gyda’r nod clir o gynyddu sefydlogrwydd ariannol i aelwydydd, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwella gallu ariannol.
Er bod teuluoedd yn gallu hunanatgyfeirio i’r prosiect, ysgolion yw’r prif lwybr atgyfeirio, ac mae’r cysylltiadau gweithio agos a ddatblygwyd rhwng CAP ac Ysgolion Sir Benfro wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect hwn.
Pan dderbynnir atgyfeiriad, maen nhw’n cynnal archwiliad ariannol, i bob pwrpas, sy’n canolbwyntio ar hawliau lles a chynyddu incwm i’r eithaf, gan sicrhau bod cleientiaid yn hawlio popeth sydd ar gael iddynt ar yr un pryd â helpu teuluoedd i adnabod a mynd i’r afael â’r materion sylfaenol sy’n cyfrannu at galedi.
Yn 2023, roedd 259 o deuluoedd wedi elwa o gymorth People PWR ac mae’r tîm wedi sicrhau enillion ariannol gwerth £118,347 i deuluoedd lleol mewn budd-daliadau heb eu hawlio. Enillodd pob teulu £2,878 ar gyfartaledd.
Fodd bynnag, mae’n ymwneud â mwy na’r arian. Mae o fudd parhaol i deuluoedd trwy roi dealltwriaeth well iddynt, mwy o hyder ac, yn aml, teimlad o rymuso sy’n gallu eu helpu i gyflawni dyfodol ariannol mwy cadarnhaol.
Dywedodd James White, Pennaeth Ymgysylltu a Chymunedau: “Rwy’n falch iawn â’r hyn y mae People PWR eisoes wedi’i gyflawni yn ei flwyddyn gyntaf.
“Mae mwy a mwy o gleientiaid yn cael eu helpu wrth i’r si am y gwasanaeth fynd ar led, ac mae bron £120,000 wedi cael ei roi ym mhocedi preswylwyr Sir Benfro, y bydd y rhan fwyaf ohono’n cael ei wario’n lleol.
“Mae’r gwasanaeth hwn wedi newid bywyd rhai cleientiaid. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn parhau i dyfu ac ymestyn ei gyrhaeddiad ymhellach yn ystod y flwyddyn i ddod.”
Dywedodd Geraldine Murphy, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Benfro: “Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, mae ein tîm o dri chynghorydd yn mynd o nerth i nerth.
“Maen nhw’n frwdfrydig ynglŷn â helpu rhieni i ganfod atebion i’w problemau ariannol. Maen nhw wedi ffurfio cysylltiadau cryf ag ysgolion a sefydliadau cymunedol ac mae penaethiaid a swyddogion ymgysylltu’n dweud wrthym eu bod eisoes wedi gweld budd ein gwasanaeth i’w rhieni a’u plant. Gyda’n gilydd, rydym yn creu ffordd effeithiol a chydgysylltiedig o helpu teuluoedd.”
Os ydych chi’n deulu sydd â phlentyn oed ysgol yn Sir Benfro ac yn credu y gallech elwa o gysylltu â thîm People PWR, ewch i wefan CAB Sir Benfro i gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu anfonwch neges e-bost at Pwr@pembscab.org i gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol i ofyn am gymorth.
Yn y llun Nerys Evans, Sarah Smith and Meredith Fletcher o People PWR