Dathlu llyfrgell newydd ar gyfer Canolfan Ddysgu Sir Benfro
New library for Pembrokeshire Learning Centre celebrated
Mae Canolfan Ddysgu Sir Benfro wedi bod yn dathlu agoriad ei llyfrgell newydd sbon yn ddiweddar, gan nodi carreg filltir gyffrous i fyfyrwyr a staff.
Wedi'i chynllunio i ysbrydoli cariad at ddarllen, mae'r llyfrgell yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin diwylliant darllen cryf o fewn y Ganolfan, gan annog myfyrwyr o bob oedran a gallu i roi cynnig ar lenyddiaeth a datblygu arferion dysgu gydol oes.
Mae’r llyfrgell yn gartref i gannoedd o lyfrau newydd ac ystod eang o genres, ac mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb ac yn parhau i dyfu trwy system ceisiadau myfyrwyr, gan ganiatáu i deitlau newydd gael eu hychwanegu yn seiliedig ar ddiddordebau unigol.
Yn ogystal â hyn, mae'r llyfrgell yn cefnogi dysgu trwy sesiynau darllen strwythuredig dan arweiniad, gan gynnwys defnyddio'r strategaeth ddarllen ‘Fusion’, sy’n sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu sgiliau dealltwriaeth a meddwl beirniadol wrth fwynhau mynediad at gasgliad rhagorol sy'n ehangu'n barhaus.
Dywedodd y Pennaeth Cynorthwyol, Michelle Lewis-Jones: "Daeth llawer iawn o bobl i’r digwyddiad, sy’n adlewyrchu'r brwdfrydedd ar draws y ganolfan am y lle newydd bywiog hwn. Mae hefyd yn gwasanaethu fel canolfan groesawgar yn ystod amser cinio, gan ddarparu amgylchedd tawel a diddorol i fyfyrwyr ymlacio a darllen.
“Fel rhan o'n hymrwymiad i gryfhau llythrennedd, rydym hefyd yn cyflwyno'r rhaglen ‘Llythrennau a Synau Hanfodol’, gan ymgorffori ein diwylliant darllen newydd ymhellach a chefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau darllen sylfaenol cryf.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Sir lleol ac aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Ddysgu Sir Benfro, y Cynghorydd Simon Hancock: "Rwy'n falch iawn o weld y llyfrgell newydd yn agor. Bydd hwn yn lle diogel a chynhwysol lle gall y bobl ifanc gael gafael ar ystod eang o lyfrau a deunyddiau dysgu eraill. Rwy'n siŵr y bydd yn gyfleuster poblogaidd iawn yng Nghanolfan Ddysgu Sir Benfro yn ôl y sylwadau a glywais gan y bobl ifanc y siaradais â nhw yn yr agoriad.”