Aelodau Cynulliad Ieuenctid yn y Summit Tlodi Ieuenctid diweddar

Dathlu Uwchgynhadledd Tlodi Ieuenctid Gyntaf Sir Benfro

Inaugural Pembrokeshire Youth Poverty Summit celebrated

Rhannu:

Daeth pobl ifanc o bob rhan o Sir Benfro at ei gilydd yn Uwchgynhadledd Tlodi gyntaf y sir ar gyfer pobl ifanc, ac roedd y rhai a oedd yn bresennol wedi dod o ysgolion uwchradd, Coleg Sir Benfro a darparwyr hyfforddiant.

Bu uwchgynadleddau llwyddiannus yn y blynyddoedd blaenorol gydag oedolion sy’n gwneud penderfyniadau, ond eleni roedd yn gyfle i bobl ifanc rannu eu profiadau a'u syniadau am yr hyn y mae tlodi yn ei olygu mewn gwirionedd a sut mae'n effeithio ar wahanol rannau o fywyd bob dydd.

Yr hyn a oedd yn allweddol i Uwchgynhadledd Tlodi Ieuenctid Thrive. Ffynnu. oedd gweithio ar y cyd ar yr hyn y gellir ei wneud i wella pethau i bawb. 

Trwy gydol y dydd, cymerodd pobl ifanc ran mewn amrywiaeth o weithdai, gweithgareddau a thrafodaethau rhyngweithiol, gan roi cyfle iddynt ddysgu mwy am dlodi a sut y gall effeithio ar fywydau pobl.

Cawsant eu hannog hefyd i rannu eu barn a'u syniadau eu hunain am yr hyn a allai wneud gwahaniaeth a helpu i wella bywydau plant a phobl ifanc ledled Sir Benfro.

Thrive. Ffynnu 2

Agorodd y Cyfarwyddwr Addysg, Steven Richards-Downes, y digwyddiad a chlywodd y bobl ifanc gan yr uwch Swyddog Iechyd y Cyhoedd Liz Western, Joy Davies o Gyngor ar Bopeth, a Sophie Buckley, Rheolwr Rhaglen Cryfhau Cymunedau PAVS yn ogystal â’r bobl ifanc eu hunain.

Yr Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Marc Tierney, ddaeth â’r diwrnod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfranogiad.

Ychwanegodd: "Roedd yn wych treulio amser gyda'r bobl ifanc a chlywed eu meddyliau a'u syniadau.

"Roedd ganddyn nhw lawer i'w ddweud am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw a’r hyn maen nhw'n meddwl allai wneud gwahaniaeth. Mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fel hyn i ddweud eu dweud a'n bod ni'n gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthym.

"Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i wneud y diwrnod mor llwyddiannus."

Thrive. Ffynnu 5

Yn ei anerchiad, gwnaeth y Cynghorydd Marc Tierney annog pobl ifanc Sir Benfro i fod yn uchelgeisiol am eu dyfodol, drwy astudio'n galed a manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael drwy eu hysgol a Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro.

Ymrwymodd, yn ei ymdrechion o fewn Cabinet Sir Benfro, i ddatgloi uchelgeisiau ein pobl ifanc i greu dyfodol gwell, mwy disglair.

Trefnwyd yr Uwchgynhadledd Tlodi Ieuenctid gan y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc (CYPRO), Iechyd y Cyhoedd a Chyngor Sir Penfro.

Dywedodd Swyddog CYPRO, Nadine Farmer: "Roedd yr Uwchgynhadledd Tlodi Ieuenctid Thrive. Ffynnu yn gyfle gwych i bobl ifanc ddweud eu dweud am dlodi a sut mae'n effeithio ar bobl ifanc ledled Sir Benfro.

"Yr hyn oedd yn wirioneddol gadarnhaol oedd nad oedden nhw ond yn sôn am yr heriau yn unig. Fe ddaethon nhw gyda syniadau, awgrymiadau a meddyliau am yr hyn a allai wneud pethau'n well.

"Y peth pwysicaf nawr yw ein bod ni'n gwrando ar yr hyn maen nhw wedi'i ddweud wrthym a'i ddefnyddio i helpu i lunio beth sy'n digwydd nesaf. Os ydym am wneud gwahaniaeth, mae angen i bobl ifanc fod yn rhan o'r sgyrsiau hynny a dweud eu dweud yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw."