Dathlwch ein plant a’n pobl ifanc gyda Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2024
Celebrate our children and young people with Pembrokeshire Spotlight Awards 2024
Mae Gwobrau Sbotolau Sir Benfro yn dychwelyd am gyfle arall i ddathlu’r plant a’r bobl ifanc hynny sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol yn 2024.
Mae Cyngor Sir Penfro yn falch iawn o gynnal y digwyddiad arbennig hwn unwaith eto ac mae angen i chi gyflwyno enwebiadau haeddiannol.
Mae BAM Nuttall, Aberaeron CDS a Pure West Radio yn garedig iawn yn noddi’r fenter hon ar y cyd rhwng y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Ieuenctid Sir Benfro, sydd wedi trefnu bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal eto eleni, a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro.
Gwahoddir y cyhoedd i enwebu unigolion neu grwpiau o blant a phobl ifanc (rhwng 5 a 25 oed) sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau rhagorol.
Mae yna 11 categori gwahanol i gyd gan gynnwys storïau ysbrydoledig gan y rhai sydd wedi goresgyn adfyd neu gyflawni rhywbeth anhygoel, ac arweinwyr ifanc sydd wedi arwain eu cyfoedion neu gefnogi neu ysbrydoli pobl ifanc eraill i gyflawni.
Mae gwobrau hefyd ar gyfer cerddoriaeth, y celfyddydau, chwaraeon, codi arian, addysg, eco-hyrwyddwyr a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned neu gyflawni newid cadarnhaol, ni waeth pa mor fawr neu fach!
Ceir manylion llawn pob categori ar y ffurflen enwebu a chofiwch y gall unrhyw un enwebu!!
- Y stori fwyaf ysbrydoledig
- Gwneud gwahaniaeth yn y gymuned
- Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
- Arweinydd Ifanc/Mentora cyfoedion
- Y celfyddydau
- Cerddoriaeth
- Chwaraeon
- Addysg
- Eco-hyrwyddwr
- Llais
- Codi arian
Os hoffech gopi papur, anfonwch e-bost at Nicky.Edwards@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 20 Hydref 2024 a chynhelir y digwyddiad gwobrwyo ar 22 Tachwedd 2024.