English icon English
Geo Exemplar awards pic

Dau dîm arobryn gan y Cyngor!

Council has two award-winning teams!

Mae Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson, wedi llongyfarch dau dîm yn yr awdurdod am eu llwyddiant yng Ngwobrau Blynyddol GeoPlace.

Mae’r gwobrau’n gwobrwyo arfer gorau ac achosion rhagorol o reoli data gan awdurdodau lleol.

Enillodd tîm rheoli cyfeiriadau GIS Sir Benfro Wobr Aur am ragoriaeth mewn rheoli ei wybodaeth am gyfeiriadau ac enillodd y tîm Gofal Strydoedd Wobr Gwella ar gyfer Strydoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Simpson fod y gwobrau’n gyflawniad gwych. “Maen nhw’n gydnabyddiaeth o ymrwymiad ein staff i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl leol. Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt am eu gwaith caled.”

Mae’r Wobr Aur ar gyfer data cyfeiriadau ond yn cael ei rhoi i awdurdodau sy’n cynnal y safonau uchaf mewn profion cenedlaethol ar ragoriaeth data.

Dywedodd Nick Chapallaz, Rheolwr Gyfarwyddwr GeoPlace: “Mae data’n hollbwysig o ran galluogi cysylltu gwasanaethau â phobl a lleoedd.

“Mae’r data hwn yn cael ei ddefnyddio nid yn unig gan yr awdurdod lleol ond gan y gwasanaethau brys hefyd i ymateb i ddigwyddiadau, llywodraeth ganolog i reoli prosiectau, a’r sector bancio a manwerthu i ddarparu morgeisi ac yswiriant.”

Cyflwynwyd y Wobr Gwella ar gyfer Strydoedd i dîm Gofal Strydoedd Cyngor Sir Penfro ar ôl iddi gyflawni’r gwelliant mwyaf yng Nghymru a Lloegr ym mhob un o feini prawf yr Amserlen Gwella Blynyddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd y Rheolwr Gofal Strydoedd a Pharcio, Marc Owen: “Rwy’n falch ein bod wedi cael ein cydnabod drwy’r wobr hon. Buom yn gweithio â GeoPlace i wella’r rhestr strydoedd a gwnaed llawer o waith i gyflawni’r gwelliannau.”

Llun (o’r chwith i’r dde): Cydlynydd Gwybodaeth GIS Adam Crocker, Y Cynghorydd David Simpson a Rheolwr Gofal Strydoedd a Pharcio Marc Owen.

Nodiadau i olygyddion

Nodyn i olygyddion

  • GeoPlace yw’r ffynhonnell ganolog ar gyfer cyfeiriadau a strydoedd y DU. Mae’n gweithio trwy gontract â’r 339 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr sydd â chyfrifoldeb statudol dros gymeradwyo a chreu cyfeiriadau a 174 o awdurdodau priffyrdd lleol.
  • Mae GeoPlace yn rheoli’r hwb canolog o 42.8 miliwn o gyfeiriadau ac 1.3 miliwn o strydoedd, gan gymryd ffrydiau o ddata ar gyfeiriadau a strydoedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, llywodraeth ganolog, yr Arolwg Ordnans, y Post Brenhinol a data o’r Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel trwy’r Gwasanaeth Gwella, Gwasanaethau Tir ac Eiddo, Llywodraeth Ynys Manaw a Digimap, yn y drefn honno.