
Dewch i siarad! Arolwg o drigolion Sir Benfro eisiau clywed gennych chi
Let’s talk! Pembrokeshire residents survey wants to hear from you
Mae arolwg o drigolion Sir Benfro yn cael ei gynnal i helpu i lunio gwasanaethau lleol yn y dyfodol.
Mae 'Dewch i Siarad: Byw yn Sir Benfro' yn arolwg sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro ac mae eich llais chi yn bwysig.
Drwy ymateb i'r arolwg byddwch yn helpu'r Cyngor i ddeall yn well:
- Yr hyn sy’n bwysig i chi
- Eich profiad o'ch ardal leol
- Eich barn ar y Cyngor a’ch modd o rhyngweithio ag ef
Mae'n bwysig clywed gan gymaint o drigolion â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg.
Mae'r arolwg i'w weld yn https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/dewch-i-siarad-byw-yn-sir-benfro ac mae'n cynnwys 11 adran fer, sy'n cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
Ymatebwch erbyn 22 Mehefin.
Os hoffech gael copi papur, ffoniwch Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Cyngor ar 01437 764551 neu e-bostiwch enquiries@pembrokeshire.gov.uk i wneud trefniadau i’w anfon atoch.
Mae copïau hawdd eu darllen ar gael hefyd. Mae copïau papur a chopïau hawdd eu darllen hefyd ar gael i'w casglu o Brif Dderbynfa Neuadd y Sir, a derbynfeydd Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden.