Handshake - Ysgwyd llaw

Digwyddiad cymorth busnes yn dod i Farchnad Dinbych-y-pysgod

Pop-up business support event comes to Tenby Market

Rhannu:

Gwahoddir entrepreneuriaid, masnachwyr, busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu i ddigwyddiad cymorth busnes am ddim ym Marchnad Dinbych-y-pysgod ddydd Iau, 17 Medi, rhwng 5.30pm ac 8.00pm.

Wedi'i drefnu gan Ganolfan Arloesedd Y Bont, bydd y digwyddiad yn dod ag ystod o sefydliadau ynghyd sy'n cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth arbenigol i fusnesau ar bob cam o'u taith.

Bydd cynrychiolwyr o Dîm Grantiau Cyngor Sir Penfro, Busnes Cymru, Loteri Sir Benfro, a sefydliadau cymorth eraill wrth law i drafod cyfleoedd ariannu, twf busnes, cymorth i ddechrau busnesau a'r adnoddau sydd ar gael yn lleol.

Bydd y noson anffurfiol hefyd yn cynnwys cyfleoedd rhwydweithio, gan ganiatáu i fusnesau lleol gysylltu, rhannu profiadau ac chreu perthnasoedd gwerthfawr. Darperir lluniaeth.

Cynhelir hefyd weithdy cyfryngau cymdeithasol gan RETHINK Media gyda'r nod o helpu busnesau i wella eu marchnata a'u hyrwyddo ar-lein yn ystod y noson.

Dywedodd Peter Lord y Prif Swyddog - Datblygu Busnes: "Mae digwyddiadau fel hyn yn gyfle gwerthfawr i entrepreneuriaid a pherchnogion busnes gael cyngor arbenigol, canfod cyfleoedd ariannu a meithrin cysylltiadau lleol. P'un a ydych chi'n ystyried dechrau busnes, wedi lansio busnes yn ddiweddar, neu eisiau tyfu eich busnes, byddwn yn eich annog i ddod draw i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael."

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â BusinessSupport@pembrokeshire.gov.uk neu ewch i https://rb.gy/avrrob i archebu eich lle.