Digwyddiad cymorth busnes yn dod i Ganolfan Hamdden Abergwaun
Pop-up business support event coming to Fishguard Leisure Centre
Gwahoddir busnesau, entrepreneuriaid a busnesau newydd uchelgeisiol o bob rhan o Sir Benfro i Ddigwyddiad Cymorth Busnes am ddim yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ddydd Llun 2 Tachwedd, rhwng 9am a 12pm.
Canolfan Arloesi'r Bont sy’n trefnu’r digwyddiad mewn partneriaeth â North Pembrokeshire Trade & Tourism, a bydd yn dod ag amrywiaeth o sefydliadau ynghyd i gynnig cyngor ymarferol, cymorth, a chyfleoedd i bobl sy'n dymuno dechrau, tyfu neu ddatblygu busnes.
Bydd cyfle i'r bobl sy’n bresennol siarad yn uniongyrchol â chynrychiolwyr o Croeso Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro, Gwaith yn yr Arfaeth, Porth Gwyrdd, North Pembrokeshire Trade & Tourism, Landsker Business Solutions, a Syniadau Mawr Cymru, i gyd o dan yr un to.
P'un a ydych chi’n chwilio am gyngor ar gyllid, recriwtio, cynaliadwyedd, cyfleoedd twristiaeth, cynllunio neu dyfu busnes, bydd cyfoeth o arbenigedd a gwybodaeth leol ar gael i’r ymwelwyr trwy gydol y bore.
Dywedodd Peter Lord, y Prif Swyddog Datblygu Busnes: "Rydym yn gwybod y gall rhedeg busnes weithiau deimlo'n ynysig, yn enwedig i fusnesau newydd a busnesau bach. Mae ein digwyddiad galw heibio yn Abergwaun wedi'i gynllunio i’w gwneud yn hawdd cael cymorth, gan ddod â chynghorwyr profiadol a sefydliadau lleol at ei gilydd o dan yr un to. P'un a oes gennych gwestiwn penodol neu ond eisiau archwilio cyfleoedd i'ch busnes, byddem yn falch iawn o'ch croesawu am goffi a sgwrs."
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i rwydweithio’n anffurfiol, gan alluogi perchnogion busnes ac entrepreneuriaid uchelgeisiol i wneud cysylltiadau newydd ac archwilio cydweithrediadau posibl.
Jeremy Martinau, Ysgrifennydd Gweithredol North Pembrokeshire Trade & Tourism: "Mae cymuned fusnes ffyniannus ac amrywiol yng ngogledd Sir Benfro, ac mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle gwych i fusnesau gael gafael ar gymorth. Byddwn yn annog unrhyw fusnes neu unrhyw un sy'n ystyried hunangyflogaeth i ddod draw a manteisio i'r eithaf ar yr arbenigedd sydd ar gael."
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i ddod iddo ac yn agored i fusnesau o bob maint yn ogystal ag unigolion sy'n ystyried hunangyflogaeth neu ddechrau menter newydd.
https://www.eventbrite.co.uk/e/2003214368100?aff=oddtdtcreator
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â BusinessSupport@pembrokeshire.gov.uk.