Digwyddiad pobi blynyddol cyffrous yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymysgu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
Baking up a storm at annual event mixing young people with decision makers
Dychwelodd y Great Council Bake Off i Ganolfan Ieuenctid Aberdaugleddau ar gyfer cystadleuaeth flynyddol fwyaf blasus y flwyddyn.
Mae’r digwyddiad blynyddol, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Ieuenctid Aberdaugleddau, yn gosod pobl ifanc mewn timau gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i greu’r cacennau gorau i’w cyflwyno i banel o feirniaid.
Aeth saith tîm i’r afael â’r her ar 27 Awst, gan goginio cacennau blasus a feirniadwyd gan Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tessa Hodgson, y Cadeirydd, y Cynghorydd Delme Harries, Henry Tuffnell AS a Kath O'Kane o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.
Mae’r digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc gael hwyl, cydweithio ac ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon wrth gystadlu, ac ar ôl rhai profion blasu pwysig, yr enillwyr oedd Melissa o EYPOP (Fforwm Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal) gyda Chris Frey-Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro.
Ymhlith y rhai eraill a gymerodd ran roedd Evelyn o Diogelu Iau Sir Benfro gyda’r Cynghorydd Marc Tierney, Aelod o’r Cabinet dros Bobl Ifanc a Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, Archie o Glwb Ieuenctid EHE gyda Susie Lees o’r Gwasanaeth Lles Addysg, Amy o Fforwm Ieuenctid ‘Off the Streets’ a David Walker, Rheolwr Tîm Cymorth Ieuenctid, Rebecca o Gynulliad Ieuenctid Sir Benfro gyda Cara Huggins, Rheolwr Addysg Diogelu, Alysha o Lleisiau Ifanc dros Ddewis a Rachael, Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ac Izzy o Gyngor Ieuenctid Aberdaugleddau gyda’r Cynghorydd Eddie Davies o Gyngor Tref Aberdaugleddau.
Dywedodd Nadine Farmer, Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc: “Mae’r Bake Off wedi dod yn ddigwyddiad mwyfwy poblogaidd sy’n helpu i chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth rhwng cenedlaethau, gan greu cysylltiadau parhaol yn aml rhwng pobl ifanc a chynghorwyr.
“Mae’n ymwneud â mwy na’r gacen; mae hefyd yn ymwneud â’r cysylltiadau sy’n gallu cael eu gwneud. Mae’n helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi ac mae’n rhoi dealltwriaeth bwysig i eraill o’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw hefyd. Rydyn ni mor falch o bawb a gymerodd ran.”
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tessa Hodgson: “Roedd hi’n bleser mawr ymuno â’r Great Council Bake Off ac fe wnaeth yr holl dimau yn wych; roedd beirniadu’r cacennau yn dasg flasus ond anodd hefyd. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â: Nadine.farmer@pembrokeshire.gov.uk Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Cyngor Sir Penfro.