English icon English
Pencampwriaeth Boccia

Disgyblion Ysgol Harri Tudur yn cipio gwobrau ym Mhencampwriaethau Boccia Cymru

Ysgol Harri Tudur pupils success in Welsh Boccia Championships

Mae dau ffrind o Ysgol Harri Tudur wedi cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Boccia – gan ennill gwobrau Arian ac Efydd.

Bu Lewis Crawford and Ioan Williams yn chwarae Boccia am y tro cyntaf pan aeth Ysgol Harri Tudur â thîm i gystadleuaeth ysgolion uwchradd a drefnwyd gan Chwaraeon Sir Benfro.

Ar ôl cipio’r safle cyntaf, cafodd Lewis ei ysbrydoli i ymuno â chlwb Boccia lleol yn Hwlffordd. Caiff y clwb ei redeg gan Angela Miles, sy’n eiriolwr angerddol dros chwaraeon anabledd yn Sir Benfro, a rhoddwyd cyfle iddo ddysgu sgiliau a thechnegau newydd.

Oherwydd ei welliant rhagorol, gofynnwyd iddo gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Boccia Cymru.

Aelod arall o dîm Cymru oedd Ioan, sydd ond newydd ddechrau chwarae Boccia ac wedi gwella’n gyflym iawn.

Enillodd Ioan wobr Arian ac enillodd Lewis wobr Efydd – sef camp ffantastig gan mai hon oedd eu cystadleuaeth fawr gyntaf.

Yn ogystal, dewiswyd Ioan fel un o ddau athletwr a dderbyniodd set o beli Boccia am ddangos potensial i ddatblygu.

“Am ganlyniad gwych i’r bechgyn,” dywedodd Georgia Osborne o Chwaraeon Sir Benfro. “Mae’r ddau yn dilyn llwybr chwaraeon anabledd gan Chwaraeon Anabledd Cymru, ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor amdanynt a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Pennawd

Llun:  Ioan Williams (chwith) a Lewis Crawford.