English icon English
Golygfa o Gastell Hwlffordd o ychydig islaw gydag un faner yn chwifio a llawer o wyrddni (hen lun)

Disodli polion baneri Castell fel rhan o brosiect adfywio

Castle flagpoles to be replaced as part of regeneration project

Mae dau bolyn baneri Castell Hwlffordd, a ddifrodwyd ar ôl stormydd diweddar, wedi cael eu tynnu oddi yno dros dro.

Oherwydd bod y gwaith cadwraeth yn y Castell ar fin dechrau, ni fydd polion baneri newydd yn cael eu codi hyd nes bod prosiect datblygu’r Castell wedi’i gwblhau.

Bydd y safle’n cael ei gau am resymau diogelwch yn ystod gwaith y prosiect adfywio.

Bydd gwaith yng Nghastell Hwlffordd yn cynnwys ateb ar gyfer polion baneri newydd, a fydd yn fwy gwydn ac yn haws i’w disodli pan fydd angen.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: “Byddwn ni’n parhau i chwifio baneri yn Neuadd y Sir, i nodi’r holl ddyddiadau swyddogol, ond edrychwn ymlaen at gwblhau cynllun y Castell pan fydd baneri’n gallu chwifio unwaith eto o’r lleoliad eiconig hwn.

“Bydd ateb cynaliadwy i sicrhau bod unrhyw atgyweiriadau i’r polion baneri yn y dyfodol yn cael eu gwneud yn haws ac yn gyflymach, yn cael ei gynnwys yn y cynllun.”

Ariennir prosiect datblygu’r Castell gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, gyda chyllid cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro. Mae ymdrechion yn mynd rhagddynt i gael mwy o gyllid ar gyfer cyfarparu’r atyniad a gweithgareddau cymunedol cysylltiedig.

Nodiadau i olygyddion

ffeil pic