Diwrnod Chwarae yn Llys-y-frân yn llwyddiant ysgubol
Playday at Llys-y-frân is a huge success
Gwnaeth deuluoedd o bob rhan o Sir Benfro ddathlu Diwrnod Chwarae cenedlaethol Ddydd Mercher gydag amrywiaeth enfawr o weithgareddau hwyliog am ddim i bob oedran.
Yn y digwyddiad a oedd yn cael ei gynnal gan Ganolfan Llys-y-frân, bu cannoedd o blant yn mwynhau sgiliau syrcas, rasio trychfilod gwallgof, pêl-droed hwyliog, paentio palmentydd, dringo, crefft, celf a llawer mwy.
Cafodd y digwyddiad ei gydlynu gan Gyngor Sir Penfro a'i gefnogi gan sefydliadau a grwpiau cymunedol o bob rhan o'r sir.
Diolchodd y trefnydd Hayli Gibson i'r holl ddarparwyr gweithgareddau am wirfoddoli eu hamser a darparu llwyth o weithgareddau i'r holl deuluoedd a ddaeth draw i gael hwyl.
“Er gwaetha'r dechrau gwlyb, roedd cannoedd o deuluoedd brwdfrydig yn cyrraedd o'r dechrau, a oedd yn anhygoel," meddai. “Mae'r adborth wedi bod yn wych a rhieni a phlant yn dweud wrthym eu bod wedi cael amser gwych."
Dywedodd Clare Sturman o Ganolfan Llys-y-Frân eu bod yn falch iawn o fod yn rhan o'r diwrnod. “Rydym yn hynod falch o gynnal y digwyddiad gwych hwn ochr yn ochr â Chyngor Sir Penfro," meddai.
Mae Diwrnod Chwarae yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. I ddathlu'r digwyddiad blynyddol, mae plant, pobl ifanc a chymunedau yn dod at ei gilydd ac yn chwarae mewn cannoedd o ddigwyddiadau cymunedol ledled y DU.
Lluniau
*Plant a theuluoedd yn mwynhau eu hunain yn Niwrnod Chwarae Sir Benfro
*Y trefnydd Hayli Gibson a James White, dirprwy gyfarwyddwr addysg Cyngor Sir Penfro, yn y digwyddiad yn Llys-y-frân.