Dros hanner ffordd drwy wyliau'r haf ond mae amser o hyd i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf!
Summer holidays over halfway but still time to Join the Summer Reading Challenge!
Mae teuluoedd ledled Sir Benfro yn cael eu hatgoffa bod digon o amser o hyd i blant gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni – Cyfrolau’n Canu.
A hithau dros hanner ffordd drwy wyliau'r haf, mae llyfrgelloedd ledled y sir yn annog plant o bob oed i gofrestru a mwynhau chwe llyfr cyn dychwelyd i'r ysgol.
Mae darllen dros wyliau'r haf yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant i gynnal y cynnydd maen nhw wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy'n parhau i ddarllen trwy gydol yr haf yn fwy tebygol o gadw eu sgiliau darllen, ehangu eu geirfa a dychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn teimlo'n hyderus ac yn barod i ddysgu. Gorau oll, mae darllen er pleser yn helpu i ddatblygu dychymyg, creadigrwydd a chariad gydol oes at lyfrau.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn rhad ac am ddim i ymuno ynddi trwy eu llyfrgell leol. Mae cyfranogwyr yn casglu gwobrau ar hyd y ffordd cyn derbyn medal a thystysgrif pan fyddant yn cwblhau'r sialens.
Mae eleni yn fwy arbennig gan mai 2026 yw Blwyddyn Genedlaethol Darllen, ac mae Llyfrgelloedd Sir Benfro yn dathlu gydag ystod gyffrous o wobrau, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, i blant sy'n cwblhau'r sialens drwy ddarllen chwe llyfr.
Bydd plant sy'n gorffen Sialens Ddarllen yr Haf yn cael cymryd rhan mewn raffl i ennill gwobrau cyffrous gan gynnwys tocyn gŵyl i'r teulu a thocynnau sinema a theatr lleol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnet: "Mae'n wych gweld cymaint o blant eisoes yn cymryd rhan, ond dydy hi’n sicr ddim yn rhy hwyr i ymuno. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o gadw plant i ddarllen yn ystod y gwyliau a chael hwyl ar yr un pryd. Mae pob llyfr yn cyfrif, ac mae ein llyfrgelloedd yn llawn straeon gwych sy'n aros i gael eu darganfod. Gyda gwobrau gwych ar gael eleni fel rhan o Flwyddyn Genedlaethol Darllen, ni fu erioed amser gwell i gofrestru."