English icon English
tai

Dweud eich dweud ar bremiymau’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Benfro

Give your views on Pembrokeshire’s Council Tax premiums for second and long-term empty homes

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal ymgynghoriad ar bremiymau’r dreth gyngor sy’n berthnasol i ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Benfro. 

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 6 Awst 2023 a gellir ei gwblhau yn:

https://dweudeichdweud.sir-benfro.gov.uk/ymgynghoriad-ar-bremiwm-treth-y-cyngor-202

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn eich barn ar y canlynol:

  • Premiymau treth gyngor cyfredol ar ail gartrefi
  • Premiymau treth gyngor cyfredol ar gartrefi gwag hirdymor
  • A ddylai’r Cyngor ddefnyddio ei ddisgresiwn yn dilyn diwygiadau Llywodraeth Cymru i drothwyon llety gwyliau hunanddarpar

Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyd-destun a gwybodaeth gefndirol am bremiymau treth gyngor cyfredol a thai yn Sir Benfro.

Mae hefyd yn rhoi diffiniadau o ail gartrefi, cartrefi gwag hirdymor, eithriadau a llety gwyliau.

“Rydym yn annog cynifer o bobl â phosibl i roi eu barn ar yr ymgynghoriad pwysig iawn yma,” dywedodd y Cynghorydd Alec Cormack, Aelod o’r Cabinet dros Gyllid Corfforaethol.

“Bydd eu hymatebion yn rhan hanfodol o adolygiad y Cyngor o bremiymau’r dreth gyngor.”

Ers 1 Ebrill 2022, mae premiwm treth gyngor o 100% wedi bod yn daladwy ar ail gartrefi yn Sir Benfro. Yn 2019, cyflwynodd y Cyngor bremiymau ar eiddo nad oedd neb wedi byw ynddo ac nad oedd unrhyw ddodrefn wedi bod ynddo ers 1 Ebrill 2016 (mae’r premiymau’n amrywio o 25% i 100% yn dibynnu ar ba mor hir mae’r eiddo wedi bod yn wag).

Yn ddiweddar, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth newydd sy’n cynyddu’r premiwm mwyaf y gellir ei godi ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor o 100% i 300%.

Nod y ddeddfwriaeth, sy’n galluogi Cynghorau ledled Cymru i godi’r premiymau hyn, yw: 

  • sicrhau bod cartrefi gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy
  • cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol

Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2023, penderfynodd Cyngor Sir Penfro y dylid dyrannu’r incwm o Bremiwm y Dreth Gyngor ar gyfer Ail Gartrefi ar gyfer 2023-24 fel a ganlyn:

  • (i) 75% i ariannu elfennau o gyllideb y Cyngor sy’n ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
  • (ii) 75% (o’r 25% sy’n weddill) ar gyfer y rhaglen Tai Fforddiadwy
  • (iii) 25% (o’r 25% sy’n weddill) ar gyfer cynllun Grant Gwella Sir Benfro sy’n ariannu prosiectau sy’n mynd i’r afael ag effeithiau negyddol eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein yn:

https://dweudeichdweud.sir-benfro.gov.uk/ymgynghoriad-ar-bremiwm-treth-y-cyngor-2023

  • Os nad oes gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd ac os hoffech chi ymateb, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 er mwyn i ni anfon copi caled o’r ffurflen ymateb atoch.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw 6 Awst 2023.