English icon English
postbox

Dychwelwch eich pleidlais bost a gwneud i'ch llais gyfrif

Return your postal vote and make your voice count

Gellir dychwelyd pleidleisiau post ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sydd ar ddod cyn gynted ag yr ydych yn eu derbyn.

Dylai'r rhai sydd wedi cofrestru fod wedi derbyn gwybodaeth am eu pleidlais bost a nawr yw'r amser i'w llenwi a'i rhoi yn ôl yn y post.

Rhaid i chi gwblhau'r datganiad pleidleisio drwy'r post a'ch papur pleidleisio er mwyn i'ch pleidlais gael ei chyfrif.

Mae eich pecyn pleidlais bost yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn ar sut i lenwi'r ffurflen a’r papur pleidleisio.

Bydd dwy amlen - llenwch y datganiad pleidleisio drwy'r post a chynnwys eich papur pleidleisio yn amlen A cyn ei osod yn amlen B, gan sicrhau bod y cyfeiriad dychwelyd ar gyfer y rhad-bost yn weladwy.

Mae'r fideo YouTube defnyddiol hwn yn dangos sut i gwblhau dogfennau'r bleidlais bost.

Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch ffurflen bleidleisio drwy'r post, gallwch hefyd ffonio 01437 775844

Mae rhai newidiadau i gyflwyno pleidlais drwy'r post a bydd angen i chi lenwi ffurflen gyda'n staff os byddwch yn penderfynu cyflwyno eich pleidlais bost mewn gorsaf bleidleisio neu dderbynfa Neuadd y Sir.