
Dyddiad cau ar gyfer cynllun cyllid gwella strydlun wedi’i ymestyn
Streetscape improvement funding scheme deadline extended
Mae gan fusnesau sydd â diddordeb, mewn trefi cymwys, tan 30 Mehefin i wneud cais am gynllun grant ffryntiad siopau drwy raglen 2025 y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Mae’r Cynllun Gwella Strydoedd newydd wedi’i anelu at eiddo masnachol ym mharthau canol y dref yn Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.
Gall perchnogion a thenantiaid / lesddeiliaid cymwys, gyda chydsyniad ysgrifenedig gan berchennog yr eiddo, wneud cais am grant o 80%, hyd at uchafswm gwerth grant o £24,999, tuag at gyfanswm yr arian sy’n cael ei wario i wella ffasadau allanol.
Mae’r cynllun grant newydd hwn yn estyniad i’r cynllun paentio blaenorol ar gyfer gwella eiddo masnachol sy’n mynd rhagddo ym mharthau canol y dref yn y trefi uchod, ac ar gyfer Tyddewi, Saundersfoot, Arberth, Crymych a Threfdraeth.
Mae hefyd wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus mewn nifer o drefi ar draws ein sir.
Bydd y gwelliant i’r cynllun paentio yn darparu cyllid ar gyfer 80% o’r costau, hyd at uchafswm gwerth grant o £4,999, tuag at ailbaentio’r ffasâd/ffasadau sy’n wynebu’r stryd.
Nod y grant yw helpu i wella apêl canol ein trefi ac annog ymwelwyr i gefnogi busnesau.
Mae gwaith cymwys yn cynnwys gosod arwyddion newydd, gosod ffenestri ac elfennau eraill o’r adeilad newydd, neu eu glanhau, yn ogystal ag atgyweirio ac addurno ffasadau allanol.
Bydd y cynllun grant newydd hwn yn rhedeg ochr yn ochr â’r cynllun paentio presennol a fydd yn mynd rhagddo.
Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau o dan yr alwad hon am brosiectau yw 30 Mehefin, a rhaid gallu cwblhau’r gwaith erbyn 31 Hydref 2025.
Ni ddylid gwario unrhyw gyllid cyn bod y grant yn cael ei gymeradwyo, gan na ellir dyfarnu’r grantiau yn ôl-weithredol.
Am fwy o wybodaeth a chanllawiau llawn y cynllun, gweler: https://www.sir-benfro.gov.uk/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/cynllun-gwella-strydlun-sir-benfro neu drwy e-bost i spfstreetenhancement@pembrokeshire.gov.uk